Ydi'r e-bost yn edrych yn rhyfedd i chi? Beth am gael golwg arno fan hyn yn lle:
http://www.partneriaeth-awyr-agored.co.uk/newsletter/index-cym.php
![]() |
||
Newyddion |
||
| Swyddi gyda Sustrans! | ||
Uwch Swyddog Marchnata - hyd at 27,000 y flwyddyn (Cyf: SUS015M)
Swyddog y Celfyddydau a Marchnata - hyd at 24,000 y flwyddyn (Cyf: SUS016M) Swyddog Prosiect, Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol - hyd at 24,000 y flwyddyn (Cyf: SUS017M) Swyddog Prosiect, Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol - hyd at 24,000 y flwyddyn (Cyf: SUS018M) Mae'r holl swyddi ar gyfer 37.5 awr yr wythnos, cytundeb tair blynedd wedi eu lleoli yng Nghaerdydd (efallai y gellir trafod hyn). |
||
| NOSON o WEITHGAREDDAU er budd yr RNLI yn Plas Menai y Ganolfan Chwaraeon Dwr Genedlaethol | ||
Dydd Lau 2il Gorffennaf 2009
Y gweithgareddau’n dechrau am 6pm. Dewch i roi cynnig ar ...Dingis Hwylio; Catamaranau; Gwyntsyrffio; Cychod Cîl; Canŵs Agored; Cychod Eistedd Arnynt. |
||
| Ar Eich Beic Dros Barnardo’s Gogledd Cymru | ||
8am, Dydd Sul 5 Gorffennaf 2009 gan gychwyn a gorffen ym maes parcio Pensarn.
Gallwch ddewis o deithiau hyfryd 15 neu 30 milltir ar hyd arfordir godidog Gogledd Cymru. |
||
| Bencampwr RYA Cenedlaethol Ieuenctid Volvo | ||
Mae'r llongwr o Ynys Mon Bleddyn Mon wedi ei goroni'n Bencampwr RYA Cenedlaethol Ieuenctid Volvo wedi iddo ennill y goron 29er ar Arfordir Gorllewin yr Alban. Aeth Mon sydd wedi ennill teitl Cenedlaethol dosbarth 29er ddwywaith yn ogystal ag ennill gwobr arian Ieuenctid yn y Gystadleaeth FydEang 29er 2008 yn Awstralia, i Bencampwriaethau'r wythnos ddiwethaf yn Largs yn wyllt i fynd un yn well na'r wobr arian Genedlaethol Ieuenctid a hawliodd gyda'r criw blaenorol Tom Humphreys ym Mhwllheli y llynedd.
|
||
| LANSIAD SWYDDOGOL Cwrs Sgiliau Beicio Mynydd Llwybr Haearn | ||
Dydd Mawrth diwethaf (7fed Ebrill 2009) agorodd Alun Ffred Jones AC (Gweinidog Treftadaeth) Drac Sgiliau Beicio Mynydd y Llwybr Haearn yn swyddogol yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Nant Bwlch yr Haearn. Gwnaethpwyd y trac arloesol hwn yn bosib diolch i ariannu hael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy Gyngor Chwaraeon Cymru ac eisoes mae’n gwneud gwahaniaeth positif i lefelau cyfranogaeth leol mewn gweithgareddau iach a chyffrous fel hyn.
|
||
| Croeso i Wythnos Gerdded Conwy 2009 | ||
Trefnwyd gan Wasanaeth Cefn Gwlad Conwy
Ydych chi'n mwynhau mynd allan i'r wlad, eisiau ychydig o ymarfer corff ac awyr iach, yn hoffi cyfarfod pobl newydd ac ymweld ag ychydig o lefydd gwahanol? Os felly, bydd rhywbeth ar eich cyfer chi yn Wythnos Gerdded Conwy. |
||
| Lansio 10fed Gwyl Gerdded Ynys Mon ac agoriad swyddogol Lon Las Cefni | ||
Dydd Sadwrn 23 Mai 2009 am 11.00 y bore gan y darlledwr enwog, Hywel Gwynfryn. Yn dilyn y lansiad swyddogol ger y Joiner's Arms ym Malltraeth, am 1.00 y prynhawn, bydd modd cymryd rhan mewn teithiau cerdded elusennol sydd yn 2, 4 neu 10 milltir o hyd.
|
||
| Cwrs Pysgota, Gwersyllt yr Urdd Glan-Llyn | ||
Gorffennaf 21, 23 2009 (Blynyddoedd 3,4,5,6)
Pris 95 punt i gynnwys popeth Cyfle unigryw i chi ddod i Wersyll yr Urdd, Glanllyn i dderbyn hyfforddiant pysgota o'r safon uchaf. Mae y cwrs yn cael ei drefnu ar y cyd rhwng yr Urdd a'r Asiantaeth yr Amgylchedd. Yn ystod y deuddydd bydd cyfle i ddysgu sgiliau pysgota, gwersylla, dysgu am fywyd gwyllt yr ardal, coginio a gwyllt grefft(bushcraft). Yn ogystal bydd cyfle i gymryd rhan yng ngweithgareddau cyffrous eraill y Gwersyll; y Cwrs Rhaffau Uchel, Canwio, Adeiladu Rafft, Chwaraeon, Wal Ddringo etc. |
||
| Cyrsiau Hyfforddi ag Arwain 2009! | ||
Mae Rhaglen Addysg Hyfforddiant y Bartneriaeth Awyr Agored 2009 ar gael i arweinwyr gwirfoddol. Mae'r rhaglen yn cynnwys cyrsiau'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol, cymhwysterau hyddysgedd, cefnogaeth mentora, cyrsiau cymorth cyntaf a gweithdai Sports Coach UK.
|
||
| Wythnos Antur Mon Mai 25ain i'r 29ain 2009! | ||
Yn ystod yr wyliau hanner tymor mae'r bartneriaeth Awyr Agored wedi trfnu wythnos o weithgareddau awyr agored i preswylwyr Mon. Mae Wythnos Antur Mon yn rhedeg am pumb diwrnod hefo'r bwriad o cael mwy o bobl lleol Mon allan yn yr awyr agored ar arfordir Mon. Mae'r wythnos yn cynnwys gweithgareddau fel dringo a mor deithio ac yn rhad ac am ddim.
|