Bydd y Bartneriaeth Awyr Agored yn gweithio gyda chlybiau, ysgolion, unigolion ac arbenigwyr i gynyddu cyfleoedd i bobl yn Cumbria gyflawni eu potensial drwy weithgareddau awyr agored, cyfranogiad gweithredol, gwirfoddoli, hyfforddiant ac addysg.
Tomos yw Swyddog Gweithgareddau Awyr Agored Gwynedd. Mae rhan o Uned Bartneriaethau Byw’n Iach.
Gallwch weld y digwyddiadau diweddar yng Ngwynedd trwy ddilyn Tomos ar Facebook
Mae Tomos yn arwain ar raglen beics trydan Byw’n Iach. Nod y rhaglen yw i helpu pobl fod yn fwy gweithgar a heini trwy sawl gwasanaeth gwahanol, yn cynnwys gwasanaeth llogi unigol, sesiynau gyda arweinydd cymwys, a phecynnau unigryw i gwmnïau a sefydliadau 3ydd sector. Gall fwy o wybodaeth am y rhaglen beics trydan gael ei weld yma.
Un elfen allweddol mewn sawl rhaglen yw ffocws ar iechyd meddwl a llesiant. Ynghyd a sefydlu grwp cerdded cyfeirio cymdeithasol yn ardal Bangor/Caernarfon; mae cannoedd o blant a phobl ifanc ar draws Gwynedd wedi cael, ac yn dal i dderbyn cyfleoedd i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau awyr agored.
Un o’r ffyrdd gorau i gael mynediad i weithgareddau awyr agored yw drwy eich clwb lleol. Rydym yn cefnogi clybiau gweithgareddau lleol gydag addysg hyfforddwyr i’w gwirfoddolwyr oherwydd gwyddom y mae’r gwaith caled a’r ymroddiad y mae cymaint o bobl yn eu rhoi drwy wirfoddoli eu hamser a’u hegni bob wythnos yn mor bwysig.
I gael gwybod mwy, dilynwch y ddolen hon.
Eisiau gwybod mwy?
Os hoffech wybod mwy neu os ydych yn glwb gweithgareddau awyr agored a hoffai gymryd rhan, cysylltwch â Tomos ar 07917563754 or tomoscailloyd@bywniach.cymru