|
|
Cynlluniau Hyfforddi
| CANOLFAN ADDYSG AWYR AGORED ANANT BH |
| SWYDDI HYFFORDDAI DAN HYFFORDDIANT |
Manylion:
A ydych dros 18?
Diddordeb mewn gyrfa mewn Addysg Awyr Agored ?
Mwynhau gweithio gyda phlant ?
Diddordeb mewn un neu fwy gweithgaredd addysg awyr agored ?
Os oes, gallai cyfnod fel hyfforddwr dan hyfforddiant yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Nant BH fod yn gyfle i gychwyn gyrfa.
Gan gychwyn pob Medi, byddwch yn ennill profiad gwerthfawr yn gweithio gyda’n staff awyr agored profiadol. Byddwn yn sicrhau y byddwch yn cael hyfforddiant i safon corff llywodraethol cenedlaethol a / neu asesiad yn y gweithgareddau perthnasol, ynghyd â chanllawiau i wella eich sgiliau. Ar ddiwedd y flwyddyn byddwch wedi ennill profiad gwerthfawr mewn addysg awyr agored a gwybodaeth dda am leoedd yng ngogledd Cymru ac yn barod i symud ymlaen i’r cam nesaf yn eich gyrfa.
Yn ystod y flwyddyn cewch lety mewn bwthyn, bwyd ac ychydig arian poced. Cyn gynted ag y byddwch wedi ennill digon o brofiad a chymwysterau mae potensial i weithio fel hyfforddwr yn y ganolfan gan gael cyflog llawn. Disgwyliwn i chi ymddwyn mewn modd proffesiynol a chymryd pob cyfle i fanteisio ar y flwyddyn.
|
Gofynion:
|
| Cyswllt: Jenny Wilson (Pennaeth Canolfan) |
Ffôn: 01492 640 735 |
| E-bost: jenny.wilson@conwy.gov.uk |
Gwefan: |
| |
| Canolfan Addysg Awyr Agored Arthog |
| Cynllun Hyfforddwr Cynorthwyol |
Manylion:
Hanfod y cynllun ydi darparu cyfle i bobl ifanc brwdfrydig ac ymroddedig i’w camp, (rhwng 20 a 25 fel arfer), ennill profiad o ddysgu a gallu technegol yn eu maes dewisedig, a derbyn arweiniad ar gyfer eu datblygiad yn y proffesiwn dros gyfnod o flwyddyn. Mae’r myfyrwyr yn cael cyfle i gysgodi staff proffesiynol cymwysedig iawn a dysgu rhai o’r manion ymarferol sydd eu hangen er mwyn bod yn hyfforddwyr llwyddiannus. Mae cyfrifoldeb y myfyriwr o fewn ei grwp yn cael ei drefnu yn ôl ei ddatblygiad ac ar ôl rhai misoedd o ddysgu am y lleoliadau a sut i weithio gyda gwahanol grwpiau byddant yn gallu arolygu grwpiau drostynt eu hunain. I’r diben yma mae’r Ganolfan yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr fynychu’r cyrsiau sy’n cael eu rhedeg yn y Ganolfan. Fel arfer bydd hyn yn golygu cyrsiau - Hyfforddi a/neu Asesiad SPA, Hyfforddwr BCU Lefel 2 neu 3 Canw/Caiac/Môr/Syrffio, Hyfforddiant a/neu Asesiad Arweinydd Mynydd (ML), Cwrs gaeaf (neu Hyfforddiant ML Gaeaf), Cwrs dramor o bosib (am bris gostyngol), Cymorth Cyntaf Penodol er gyfer y Mynydd. Mae Arthog yn darparu llety a phob pryd bwyd yn gyfnewid am gymorth i redeg y Ganolfan. Bydd hefyd yn talu £50 yr wythnos i fyfyrwyr am gynorthwyo gyda thasgau tîm dydd Llun a Chyfeiriannu dydd Gwener, p’un ai ydi’r myfyriwr ei hun yn rhedeg y cwrs neu beidio. Ar ben hynny, os ydi’r myfyriwr yn ennill cymhwyster bydd y Ganolfan yn talu’r myfyriwr am ddefnyddio’r cymhwyster hwnnw pan fydd yn ei ddefnyddio mewn cyd-destun proffesiynol/llawrydd (fel arfer tua diwedd y flwyddyn). O bryd i’w gilydd mae Hyfforddwyr Cynorthwyol yn cael arian prentisiaeth ac yn gallu cynilo arian er mwyn prynu caiacau ac offer arall yn ystod y flwyddyn. Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Andy Hall, Pennaeth y Ganolfan, Canolfan AAA Arthog, ARTHOG, Gwynedd. LL39 1BX |
Gofynion:
Er mwyn cael lle ar y cynllun mae’n rhaid, i gychwyn, bod yn frwdfrydig tu hwnt ac fel arfer rhwng 20 a 25 oed. Bydd hyn i’w weld yn hanes gweithgarwch y myfyriwr mewn camp neilltuol (fel arfer caiacio neu ddringo). Os ydi’r myfyriwr yn berson cwrtais a chymdeithasol sy’n barod i ddysgu, addasu a bod yn hyblyg bydd yn cael blwyddyn braf a chynhyrchiol iawn. |
| Cyswllt: Andy Hall |
Ffôn: 01341 250455 |
| E-bost: andy@arthog.co.uk |
Gwefan: www.arthog.co.uk |
| |
| Canolfan Mynydd Blue Peris, Llanberis |
| Hyfforddwr Cynorthwyol |
Manylion:
Manylion:
Amcanion y Cynllun: 1. I ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel yn ystod blwyddyn o brofiad ymarferol i ddarpar hyfforddwyr sydd eisoes â phrofiad o hyfforddi ar lefel sylfaenol ac sydd yn ystyried o ddifrif dilyn gyrfa ym maes addysg awyr agored; 2. I roi’r cyfle i’r person hwnnw ennill cymwysterau technegol pellach; 3. I ddatblygu profiad o ddysgu mewn nifer o weithgareddau antur er mwyn gallu symud o sgiliau hyfforddi sylfaenol i redeg sesiynau o safon broffesiynol uchel. Mae disgwyl y bydd yr hyfforddwr cynorthwyol yn cymryd cyfrifoldebau hyfforddwr grwp ar gyfer rhai gweithgareddau (manylion y Lefelau i’w gweld isod). Mae hwn yn gynllun sydd wedi ei redeg ers 1990. Mae pob un o hyfforddwyr cynorthwyol y gorffennol wedi symud ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus ac mae parch mawr at y cynllun o fewn y diwydiant awyr agored. Bydd yr Hyfforddwr Cynorthwyol yn gweithio dan oruchwyliaeth mentor, a bydd nodau’r hyfforddiant yn cael eu gosod a’u gwerthuso’n chwarterol. Bydd yr hyfforddiant ei hun yn canolbwyntio ar bob agwedd o swyddogaeth yr hyfforddwr grwpiau. Bydd yn cwmpasu hyfforddiant yn y sgiliau technegol a’r sgiliau trin sydd eu hangen wrth ddysgu pobl ifanc yn yr awyr agored. Bydd yr Hyfforddwr Cynorthwyol yn cael ei annog i ddilyn cyrsiau hyfforddi ac asesu Cyrff Rheoli Cenedlaethol (yn ôl eu dyheadau, eu gallu a’u cynnydd). Bydd rhai o’r cyrsiau sy’n cael eu trefnu gennym ni’n rhad ac am ddim i’r Hyfforddwr Cynorthwyol, ond rydym yn defnyddio cyrff eraill ar gyfer rhai o’r cymwysterau uwch a bydd gofyn i’r HC dalu rhan o gost y rheiny. Byddwn yn caniatáu amser i ffwrdd ar gyfer cyrsiau hyfforddi a bydd staff Blue Peris yn rhoi llawer o gefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i’r HC. Mae’r cynllun yn para blwyddyn ac mae’n bosib ei derfynu gan y naill ochr neu’r llall gyda mis o rybudd, heblaw mewn achos o gamymddwyn. Weithiau mae llety ar gael yn y Ganolfan ei hun. Mae’r llety’n cynnwys dwy ystafell sengl gydag un toilet/ystafell ymolchi a chegin. Dydi’r llety ddim yn addas ar gyfer cyplau, teuluoedd neu anifeiliaid - dim ond pobl sengl. Rydym yn codi £35 y person yr wythnos am aros yno - mae hyn yn cynnwys cost gwresogi, goleuo a defnydd peiriant golchi. Mae bwyd y ganolfan ar gael ar gost o £20 yr wythnos (cyn belled â bod yr Hyfforddwr Cynorthwyol yn gallu mynychu prydau Blue Peris yn ystod yr amseroedd bwyd arferol). Tâl a breintiau: Bydd yr Hyfforddwr Cynorthwyol yn dechrau ar Raddfa 3 yr NJC (sy’n dechrau ar hyn o bryd o £13,953* ac yn codi i £14,391 yn ôl cyfran) a bydd y Ganolfan yn darparu’r cyfarpar sylfaenol - dillad dal dwr, esgidiau cerdded, rycsac ayb. Bydd disgwyl iddo weithio pum niwrnod yr wythnos fel arfer. Bydd yna ddau ddeg pedwar o ddyddiau o wyliau gyda thâl + gwyliau banc ac amser i ffwrdd yn lle oriau goramser sy’n hel o ganlyniad i weithio penwythnosau a gyda’r nos. Bydd rhaid cymryd mwyafrif yr amser i ffwrdd pan fydd y Ganolfan ar gau. Bydd yr Hyfforddwr Cynorthwyol wedi ei yswirio ar gyfer damweiniau personol ac atebolrwydd 3ydd person ond ddim ar gyfer colled neu ddifrod i’w eiddo personol.
|
Gofynion:
Rydym ni’n edrych am rywun gyda:- 1. diddordeb ers tro mewn addysg awyr agored 2. gallu sylfaenol mewn dau neu fwy o’r gweithgareddau canlynol: dringo, cerdded mynydd, cyfeiriannu, canwa (caiacio neu ganw agored) 3. profiad fel hyfforddwr gweithgareddau awyr agored - yn arbennig felly yn un o’r gweithgareddau uchod a gorau oll os ydi’r profiad wedi ei gefnogi gan gymhwyster sy’n cynnwys elfen hyfforddiant e.e. Hyfforddiant Arweinydd Mynydd, Hyfforddiant SPA, Cymhwyster Hyfforddwr Lefel 2 (Caiac neu Ganw Agored), Cymhwyster Hyfforddwr BOF ayb. 4. diddordeb mewn datblygu’n bersonol drwy brofiad antur personol 5. gallu i gyd-dynnu’n dda 6. Agwedd ofalus at bobl o bob oed a gallu 7. Trwydded yrru lân (gorau oll os yn cynnwys Cymhwyster cerbydau Dosbarth D1 ac Asesiad MiDAS). Os nad oes gennych D1 bydd gofyn i chi fod â thrwydded car llawn a bod dros 21 oed er mwyn cael trwydded gyrru bysiau mini (D1) dros dro (provisional). Heb drwydded dros dro D1 bydd dim posib i chi symud ymlaen drwy’r lefelau - os mai dyma ydi eich sefyllfa, ffoniwch Blue Peris. 8. Cymeradwyaeth boddhaol gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (Criminal Records Bureau) (h.y gofyniad Amddiffyn Plant - Datgelu cefndir troseddol pobl sy’n gweithio gyda phlant - yn ôl Cylchlythyr HOC 102/88 y Swyddfa Gartref). Mae hyn yn hanfodol ar gyfer y swydd. 9. Oed 21+. 10. Cymhwyster Cymorth Cyntaf |
| Cyswllt: Oliver Knowles |
Ffôn: 01286 870853 |
| E-bost: mail@blueperis.co.uk |
Gwefan: www.blueperis.co.uk |
| |
| Canolfan Mynydd Cristnogol Porth Pensarn |
| Hyfforddwr dan Hyfforddiant |
Manylion:
Mae’r Ganolfan Mynydd Cristnogol yn darparu ystod eang o weithgareddau a chyrsiau amgylcheddol ac arbenigol i ysgolion, grwpiau ieuenctid a grwpiau eglwys mewn awyrgylch Gristnogol. Mae gan y Ganolfan le i hyd at 6 o hyfforddwyr dan hyfforddiant ar ei thîm hyfforddi bob blwyddyn, ac mae disgwyl iddyn nhw gymryd rhan ym mhob agwedd o redeg y Ganolfan. Mae’r dyletswyddau’n amrywiol ac yn cynnwys y canlynol: 1. Cynorthwyo gyda, ac arwain gweithgareddau 2. Dyletswyddau cynnal a chadw ty 3. Mynychu’r cyrsiau hyfforddi y mae’r Ganolfan yn eu trefnu 4. Cynorthwyo gyda, ac arwain gweithgareddau min nos. Hyfforddiant:- Mae’r rhaglen hyfforddiant yn ymdrin â thri phrif faes: 1. Datblygiad sgiliau arwain a hyfforddi 2. Datblygiad eich sgiliau gweithgareddau awyr agored eich hun 3. Datblygiad personol ac ysbrydol. Y flwyddyn 1af:- Yn y flwyddyn gyntaf mae’r rhai dan hyfforddiant yn cwblhau cwrs deuddydd cymorth cyntaf, yn mynychu cyrsiau hyfforddi ML (arweinydd mynydd), Lefel 2 Caiac y BCU a chymhwyster SPA. Bydd y Ganolfan yn sicrhau eich bod hefyd yn derbyn hyfforddiant a phrofiad o holl ystod gweithgareddau’r ganolfan, yn cynnwys cerdded hafnau, caiacio, canwa, dringo, cyfeiriannu, teithiau antur, adeiladu rafftiau ac astudiaethau amgylcheddol. Yr 2ail Flwyddyn:- Rydym yn disgwyl i’r rhai sydd dan hyfforddiant aros 2 flynedd (neu fwy) yn y Ganolfan, i barhau â’u hyfforddiant ac, os/pryd yn bosib i gymryd swydd hyfforddwr. Yn ystod yr 2ail flwyddyn rydym yn gobeithio y bydd y rhai dan hyfforddiant yn cwblhau asesiadau cymwysterau ML, SPA ac L2. Mae yna hefyd peth hyblygrwydd yn y drefn fydd yn caniatáu datblygu sgiliau ac arbenigedd mewn meysydd eraill, ond byddai hyn i’w drafod gyda Chyfarwyddwr y Ganolfan a’r Prif Hyfforddwyr. Mae’r Ganolfan ar hyn o bryd yn cynorthwyo gyda datblygiad canolfan awyr agored yn yr India, ac fe all rhan o’r cwrs yn ystod yr 2ail flwyddyn gynnwys taith 4 mis i’r India er mwyn cael profiad o waith datblygu canolfan newydd. Y Ganolfan fuasai’n talu costau’r daith. Amodau:- Mae hyfforddwyr dan hyfforddiant yn mynychu’r Ganolfan Mynydd Cristnogol fel gwirfoddolwyr. Byddwn yn darparu llety a bwyd yn y ganolfan a bydd unrhyw gostau hyfforddiant yn cael eu talu gan CMC. Bydd y rhai dan hyfforddiant yn derbyn lwfans o £124 y mis. Os ydi hyfforddwr dan hyfforddiant yn gadael cyn ddaw ei gytundeb i ben mae’n bosib y bydd gofyn iddo ad-dalu cost ei gyrsiau hyfforddi. Oriau:- Hyblyg ond yn seiliedig ar 8:45 y bore - 5:00 y prynhawn. Mae natur canolfan awyr agored yn gofyn am barodrwydd i fod yn hyblyg o ran oriau gwaith. Bydd y rhai dan hyfforddiant yn cael cymryd 30 diwrnod o wyliau’r flwyddyn sy’n cynnwys gwyliau banc. Cymwysterau. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddiddordeb a gallu yn y maes awyr agored. Mae brwdfrydedd dros bob math o chwaraeon yn hanfodol. Mae gofyn bod yn nofiwr cymwys ac mae trwydded yrru’n fanteisiol. Sail Ffydd. Mae disgwyl i bob aelod o’r staff gydsynio ag athrawiaeth sail ffydd y Ganolfan - copi’n gynwysedig. |
Gofynion:
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddiddordeb a gallu yn y maes awyr agored. Mae brwdfrydedd dros bob math o chwaraeon yn hanfodol. Mae gofyn bod yn nofiwr cymwys ac mae trwydded yrru’n fanteisiol. Mae disgwyl i bob aelod o’r staff gydsynio ag athrawiaeth sail ffydd y Ganolfan. |
| Cyswllt: Mark Downey |
Ffôn: 01341 241718 |
| E-bost: office@cmcpensarn.org.uk |
Gwefan: www.cmcpensarn.co.uk |
| |
| GWERSYLL YR URDD GLAN-LLYN |
| Cynllun Hyfforddai |
Manylion:
Bwriad y Cynllun Hyfforddai yw rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau a derbyn hyfforddiant tuag at ennill cymwysterau cydnabyddedig yn y maes awyr agored a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cynllun o hyfforddiant dros gyfnod o 12 mis gan gychwyn yn Awst. Ar ddiwedd y cyfnod mae’r hyfforddai wedi ennill cymwysterau mewn gweithgareddau amrywiol gan anelu at hyfforddwr lefel 2 mewn ceufadu a chanŵa, hwylio lefel 2, cwch achub lefel 2, hyfforddiant arweinydd mynydd haf, hyfforddiant dringo, cymorth cyntaf a gweithgareddau mewnol y gwersyll, e.e. wal ddringo, cwrs rhaffau uchel, pwll nofio, bowlio deg, ayb.
Mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y gorffennol gyda nifer o’r hyfforddai wedi sicrhau swyddi parhaol yn y gwersyll a chanolfannau eraill ar ôl cwblhau eu cyfnod dan hyfforddiant.
Os os gennych ddiddordeb, mae swydd ddisgrifiad a ffurflen gais ar gael ar wefan y gwersyll: www.urdd.org/glanllyn neu gysylltwch â’r gwersyll:
Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, Llanuwchllyn, Y Bala, Gwynedd LL23 7ST glanllyn@urdd.org
01678 541 000
|
Gofynion:
|
| Cyswllt: |
Ffôn: 01678 541 000 |
| E-bost: glanllyn@urdd.org |
Gwefan: www.urdd.org/glanllyn |
| |
| Plas y Brenin |
| Cynllun Hyfforddwr Llwybr Cyflym |
Manylion:
Os ydych chi am ddatblygu gyrfa yn yr awyr agored, fe all ein cynllun hyfforddi llwybr cyflym fod yn fan cychwyn delfrydol i chi. Yn ystod y pedwar mis cyffrous o hyfforddiant dwys byddwch yn gweithio tuag at ennill llond trol o Gymwysterau Corff Rheoli Cenedlaethol, yn ennill toreth o brofiad ac yn datblygu eich sgiliau personol. Ar ben hynny, byddwch yn cymryd gyda chi’r parch a’r gydnabyddiaeth sy’n dod o gael eich hyfforddi yn y Ganolfan Mynydd Cenedlaethol. Ochr yn ochr â’r hyfforddwyr, byddwch yn byw saith niwrnod yr wythnos ym Mhlas y Brenin, er nad ydi’r cwrs ond yn rhedeg o ddydd Llun tan ddydd Gwener. Bydd hynny’n rhoi cyfle i chi naill ai ymuno â chyrsiau eraill sy’n cael eu rhedeg ar benwythnosau neu i fynd i badlo neu ddringo gyda’ch cyfeillion newydd yn y Ganolfan Mynydd Cenedlaethol. Bydd yna dri phryd da o fwyd y dydd, ac ystafell fwyta gyda golygfa fendigedig o’r Wyddfa o’i blaen i'w bwyta nhw ynddi. Yn ystod y cwrs byddwch yn derbyn hyfforddiant personol mewn sgiliau caiacio, canwio agored, cerdded mynydd, dringo, cymorth cyntaf, cyfeiriannu, ymwybyddiaeth o risg a rheoli peryglon. Bydd eich rhaglen hyfforddiant yn un unigol a phenodol i chi, ac yn cynnwys: Cymhwyster Dringo Rhediad Sengl, Cymhwyster Arweinydd Grwp Cerdded, Cymhwyster Arweinydd Mynydd (Haf), Cymhwyster Arweinydd Mynydd (Gaeaf), Cymhwyster Hyfforddwr Mynydd, Hyfforddiant Cymhwyster Arweinydd Mynydd Rhyngwladol, Cymhwyster Hyfforddwr Cymdeithas Cyfeiriannu Prydain, Cymhwyster Sylfaenol Cymorth Cyntaf yr REC, Cymwysterau Lefel 2 Hyfforddwr Caiac, Lefel 2 Hyfforddwr Canw, Lefel 3 Hyfforddwr Caiac, Lefel 3 Hyfforddwr Canw, Hyfforddwr BCU, Cymhwyster Diogelwch Dwr Garw, Tystysgrif Rheoli Diogelwch yn y Maes, Arweinydd Beicio Mynydd SMBLA. Hyd y cwrs: 90 diwrnod. Cost: £8,450
|
Gofynion:
Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol i gynnig am le, ond mi fydd trywydd eich cwrs yn dibynnu ar eich sgiliau. Mae’r llefydd sydd ar gael yn brin ac mae disgwyl y bydd y gofyn yn fawr. Mae’r cynllun yn rhedeg o ddydd Llun yr 8fed o Ionawr i ddydd Gwener y 27ain o Ebrill 2007 ac yn costio £8,450. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ceisio am le ar y cynllun gyrrwch y ffurflen amgaeedig ynghyd â manylion gyrfa (CV) i’r Cyfarwyddwr Hyfforddi. Dyddiad cau 27ain o Hydref 2006.
|
| Cyswllt: John Cousins, Cyfarwyddwr Hyfforddi |
Ffôn: 01690 720 214 |
| E-bost: info@pyb.co.uk |
Gwefan: www.pyb.co.uk |
| |
|
|
|