Coach Education Leaflet
 
Newyddion
Ar Eich Beic Dros Barnardo’s Gogledd Cymru
05/08/2009
 
Newyddion
8am, Dydd Sul 5 Gorffennaf 2009 gan gychwyn a gorffen ym maes parcio Pensarn.
Gallwch ddewis o deithiau hyfryd 15 neu 30 milltir ar hyd arfordir godidog Gogledd Cymru.
 
NOSON o WEITHGAREDDAU er budd yr RNLI yn Plas Menai y Ganolfan Chwaraeon Dwr Genedlaethol
02/07/2009
 
Newyddion
Dydd Lau 2il Gorffennaf 2009

Y gweithgareddau’n dechrau am 6pm.

Dewch i roi cynnig ar ...Dingis Hwylio; Catamaranau; Gwyntsyrffio; Cychod Cîl; Canŵs Agored; Cychod Eistedd Arnynt.
 
Swyddi gyda Sustrans!
25/06/2009
 
Newyddion
Uwch Swyddog Marchnata - hyd at 27,000 y flwyddyn (Cyf: SUS015M)
Swyddog y Celfyddydau a Marchnata - hyd at 24,000 y flwyddyn (Cyf: SUS016M)
Swyddog Prosiect, Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol - hyd at 24,000 y flwyddyn (Cyf: SUS017M)
Swyddog Prosiect, Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol - hyd at 24,000 y flwyddyn (Cyf: SUS018M)
Mae'r holl swyddi ar gyfer 37.5 awr yr wythnos, cytundeb tair blynedd wedi eu lleoli yng Nghaerdydd (efallai y gellir trafod hyn).
 
SWYDD WAG: Cydlynydd Cymdeithas Hyfforddi Arweinwyr Mynydda (MLTA)
20/05/2009
 
Newyddion
Cyflog dechreuol: Rhan amser (0.6) £12,000
Mae'r swydd hon yn gofyn am unigolyn sydd a chymhelliant uchel, sy'n drefnus, deinamig ac yn frwdfrydig ac sy'n gallu bod yn fentrus er mwyn datblygu'r Gymdeithas hon. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus feddwl agored tuag at y swydd. Bydd y sawl sy'n dal y swydd yn gweithio yn y tim gwasanaethau cwsmeriaid yn Siabod Cottage, sydd hefyd yn Ganolfan Hyfforddi Arweinwyr yng Nghymru Lloegr (MLTE a MLTW).
 
Lansio 10fed Gwyl Gerdded Ynys Mon ac agoriad swyddogol Lon Las Cefni
15/05/2009
 
Newyddion
Dydd Sadwrn 23 Mai 2009 am 11.00 y bore gan y darlledwr enwog, Hywel Gwynfryn. Yn dilyn y lansiad swyddogol ger y Joiner's Arms ym Malltraeth, am 1.00 y prynhawn, bydd modd cymryd rhan mewn teithiau cerdded elusennol sydd yn 2, 4 neu 10 milltir o hyd.
 
Cwrs Pysgota, Gwersyllt yr Urdd Glan-Llyn
29/04/2009
 
Newyddion
Gorffennaf 21, 23 2009 (Blynyddoedd 3,4,5,6)
Pris 95 punt i gynnwys popeth
Cyfle unigryw i chi ddod i Wersyll yr Urdd, Glanllyn i dderbyn hyfforddiant pysgota o'r safon uchaf. Mae y cwrs yn cael ei drefnu ar y cyd rhwng yr Urdd a'r Asiantaeth yr Amgylchedd. Yn ystod y deuddydd bydd cyfle i ddysgu sgiliau pysgota, gwersylla, dysgu am fywyd gwyllt yr ardal, coginio a gwyllt grefft(bushcraft). Yn ogystal bydd cyfle i gymryd rhan yng ngweithgareddau cyffrous eraill y Gwersyll; y Cwrs Rhaffau Uchel, Canwio, Adeiladu Rafft, Chwaraeon, Wal Ddringo etc.
 
Croeso i Wythnos Gerdded Conwy 2009
29/04/2009
 
Newyddion
Trefnwyd gan Wasanaeth Cefn Gwlad Conwy
Ydych chi'n mwynhau mynd allan i'r wlad, eisiau ychydig o ymarfer corff ac awyr iach, yn hoffi cyfarfod pobl newydd ac ymweld ag ychydig o lefydd gwahanol? Os felly, bydd rhywbeth ar eich cyfer chi yn Wythnos Gerdded Conwy.
 
LANSIAD SWYDDOGOL Cwrs Sgiliau Beicio Mynydd Llwybr Haearn
28/04/2009
 
Newyddion
Dydd Mawrth diwethaf (7fed Ebrill 2009) agorodd Alun Ffred Jones AC (Gweinidog Treftadaeth) Drac Sgiliau Beicio Mynydd y Llwybr Haearn yn swyddogol yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Nant Bwlch yr Haearn. Gwnaethpwyd y trac arloesol hwn yn bosib diolch i ariannu hael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy Gyngor Chwaraeon Cymru ac eisoes mae’n gwneud gwahaniaeth positif i lefelau cyfranogaeth leol mewn gweithgareddau iach a chyffrous fel hyn.
 
AWYDD TRIO HWYLIO?
28/04/2009
 
Newyddion
LLUN GWYL BANC, MAI 04ed 2009, CLWB HWYLIO LLYN BRENIG!
Wel Dyma eich siawns! Mae'r clwb yn gwahodd i chi ddod ymlaen a trio eich llaw at hwylio ag amrywiaeth o gychod ar Llyn Brenig. Hwylio mewn amrywiaeth o gychod (tywydd yn dibynnu) am ddim (cymorth hynofedd ar gael), Sgwrsio gyda'r aelodau, Bwyd a diod ar gael.
 
Bencampwr RYA Cenedlaethol Ieuenctid Volvo
24/04/2009
 
Newyddion
Mae'r llongwr o Ynys Mon Bleddyn Mon wedi ei goroni'n Bencampwr RYA Cenedlaethol Ieuenctid Volvo wedi iddo ennill y goron 29er ar Arfordir Gorllewin yr Alban. Aeth Mon sydd wedi ennill teitl Cenedlaethol dosbarth 29er ddwywaith yn ogystal ag ennill gwobr arian Ieuenctid yn y Gystadleaeth FydEang 29er 2008 yn Awstralia, i Bencampwriaethau'r wythnos ddiwethaf yn Largs yn wyllt i fynd un yn well na'r wobr arian Genedlaethol Ieuenctid a hawliodd gyda'r criw blaenorol Tom Humphreys ym Mhwllheli y llynedd.
 
Swyddogion Datblygu Awyr Agored x 2
22/04/2009
 
Newyddion
Lleoliad: Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn
Cyflog: 21,376 - 24,781
Swyddi a fydd yn datblygu'r cyfleoedd i bobl ifanc gael cymwysterau cydnabyddedig awyr agored. Dyddiad cau Dydd Mawrth, 5 Mai 2009 am hanner dydd. Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos yn cychwyn 11 Mai 2009.
 
Gwyl Gerdded PENTREFOELAS
22/04/2009
 
Newyddion
2, 3, 4 Mai 2009
Cyfle i grwydro a mwynhau ein pentref! Ar ol eich taith rydym yn eich gwahodd i aros yn ein pentref lle cynnigir bwydydd, diodydd ac ati yn ein Siop Siocled ac Ystafell De, dau dy tafarn gyda bwyty, caffi/siop, neu dewch a'ch bwyd heo a chi a'i fwynhau yn y Maes Picnic. Cynnigiwn hefyd Feusydd Carafanio, Meusydd Gwersylla a nifer o lefydd Gwely a Brecwast.
 
Dewch i Hwylio! Clwb Hwylio Onboard ym Mhlas Menai
14/04/2009
 
Newyddion
4 Ebrill i 6 Mehefin 2009 (yn gynwysedig 10 sesiwn)
Dechreuwyr i Uwch. Croeso i bawb 11 i 18 oed. Dydd Sadwrn 9.30am i 12.30pm. Mae Plas Menai yn darparur holl ddillad ac offer angenrheidiol, felly beth am roi cynnig ar y gamp gyffrous hon!
 
Cyrsiau Hyfforddi ag Arwain 2009!
13/04/2009
 
Newyddion
Mae Rhaglen Addysg Hyfforddiant y Bartneriaeth Awyr Agored 2009 ar gael i arweinwyr gwirfoddol. Mae'r rhaglen yn cynnwys cyrsiau'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol, cymhwysterau hyddysgedd, cefnogaeth mentora, cyrsiau cymorth cyntaf a gweithdai Sports Coach UK.
 
Sicrhau rhagor o gyllid ar gyfer arweinwyr gwirfoddol yn 2009!
09/04/2009
 
Newyddion
25000 arall ar gyfer 2009!
Mae'r Bartneriaeth awyr Agored wedi derbyn grant yn ddiweddar o 25000 gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) i gynorthwyo arweinwyr gwirfoddol yn 2009. Bydd yr arian yn mynd at gyrsiau'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol, cymhwysterau hyddysgedd, cefnogaeth mentora, cyrsiau cymorth cyntaf a gweithdai Sports Coach UK.
 
Pedwar Rheolwr Gwarchodfa Cynorthwyol Tymhorol
06/04/2009
 
Newyddion
SWYDD: Pedwar Rheolwr Gwarchodfa Cynorthwyol Tymhorol
RHIFAU'R SWYDDI: 000653-000655, 000671
LLEOLIAD: Niwbwrch, Coedydd Aber, Cadair Idris (Ystradllyn), Llanfair (Harlech)
GRADDFA: Band A
Diben y swydd hon yw cynorthwyo i gynnal treftadaeth naturiol Cymru fel y gall pawb ei mwynhau ac elwa arni. Byddwch yn gwneud hyn trwy gynorthwyo i reoli safleoedd arbennig.
 
Diddordeb mewn hyfforddiant reidio beic?
01/04/2009
 
Newyddion
Pob Nos Lun yn Trac Rasio Ty Croes, Ynys Mon.
6yh tan 7yh i blant o dan 11, a 6yh tan 8yh i blant dros 11 ac oedolion. Dwy bunt neu un punt os o dan 16 oed. Dewch a beic a helmed gyda chi. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Dewi Jones ar 07733 121585. Noddir gan Beicio Cymru a Energy Cycles.
 
Wythnos Antur Mon Mai 25ain i'r 29ain 2009!
30/03/2009
 
Newyddion
Yn ystod yr wyliau hanner tymor mae'r bartneriaeth Awyr Agored wedi trfnu wythnos o weithgareddau awyr agored i preswylwyr Mon. Mae Wythnos Antur Mon yn rhedeg am pumb diwrnod hefo'r bwriad o cael mwy o bobl lleol Mon allan yn yr awyr agored ar arfordir Mon. Mae'r wythnos yn cynnwys gweithgareddau fel dringo a mor deithio ac yn rhad ac am ddim.
 
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Dringo i'r Anabl!
30/03/2009
 
Newyddion
Dyddiad: Dydd Iau 30ain o Ebrill 2009
Lleoliad: Canolfan Dringo y Beacon
Amser: 9.30yb i 4.30 yh
 
Rhoi Cynnig ar Pysgota!
30/03/2009
 
Newyddion
Diwrnod Blasu Pysgota, Dydd Sadwrn 23ain Mai,10yb i 4yh
Lle: Llyn Edna, Llanerchymedd
Mae'r sesiwn yn rhad ac AM DDIM i gyfranogwyr Mentro Allan. Mae'r prosiect Mentro Allan wedi ei anelu tuag at ferched ifanc o oedran 16 i 30.
 
Swyddog 'Bike it' Gogledd Cymru (cyf: NCN689C)
30/03/2009
 
Newyddion
Hyd at 25,000 y flwyddyn
37.5 awr yr wythnos
Cytundeb tan 31 Gorffennaf 2011, lleolir yng Nghonwy
Mae Sustrans, elusen trafnidiaeth gynaliadwy flaenaf y DU sy'n hyrwyddo'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a mentrau cyffrous eraill, yn dymuno llenwi'r swydd wag uchod. Bydd prif gyfrifoldebau'r rol hon yn cynnwys hyrwyddo beicio i'r ysgol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a ddewisir, cefnogi 'hyrwyddwyr ysgol' mewn ysgolion lleol eraill a gwneud cysylltiadau rhwng ysgolion a'r diwydiant beiciau.
 
Mae modd gwneud ceisiadau ar gyfer Ysgoloriaeth SkillsActive a Nancy Ovens nawr!
27/03/2009
 
Newyddion
Bellach mae Ysgoloriaeth SkillsActive a Nancy Ovens yn ei phedwaredd flwyddyn, ac ar gael i unigolion sy'n gweithio ac yn derbyn tal, neu'n ddi dal, o fewn y sectorau canlynol; chwaraeon, ffitrwydd, gwaith chwarae, awyr agored a charafanau ac sy'n dymuno gwella eu sgiliau drwy raglen hyfforddi arloesol, efallai un sydd ddim yn bodoli o fewn maes hyfforddi arferol.
 
SWYDD GWAG: Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored - de dwyrain Cymru
23/03/2009
 
Newyddion
CYFLOG: 17,937.00 y flwyddyn
 
SWYDD GWAG - Gweithiwr Ieuenctid a Chymunedol - Addysg Awyr Agored a Gwobr Dug Caeredinw Item
20/03/2009
 
Newyddion
CYFLOG: 24,643 - 26,666
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint yn dymuno penodi Gweithiwr Ieuenctid deinamig a dyfeisgar i ddatblygu a chefnogi ymhellach y Cynllun Gwobr Dug Caeredin llwyddiannus sy'n cael ei redeg ledled y Sir. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gydag ysgolion, lleoliadau'r Gwasanaeth Ieuenctid ac ystod o asiantaethau partner i yrru'r rhaglen boblogaidd hon ymlaen. Byddwch yn gallu cyfathrebu'n effeithiol, bydd gennych sgiliau trefnu ardderchog ynghyd a phrofiad sylweddol o weithdrefnau'n ymwneud a gweithgareddau awyr agored ac antur.
 
Tocynnau i'r Sioe Awyr Agored i'w enill ar 27, 28, 29 Mawrth!
18/03/2009
 
Newyddion
Sut fasa chi yn hoffi enill tocynnau i’r sioe Awyr Agored yn Birmingham NEC ar yr 27ain, 28ain ar 29ain o Mawrth. Mae’r sioe yn cael eu cefnogi gan yr Ordnance Survey, ac yn cynnwys cystadleuaeth dringo yr ‘Skymasters’, pwll caiacio, maes beicio mynydd a darlith gan enwau enwog fel Sir Ranulph Fiennes a Doug Scott.
 
Wedi sicrhau £5000 o gyllid i gefnogi arweinwyr gwirfoddol yn 2009!
13/03/2009
 
Newyddion
Mae Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Cymru wedi derbyn grant o 5000 mil i hyfforddi arweinwyr gwirfoddol o raglen grantiau'r Loteri Arian i Bawb. Dros y 3 mlynedd ddiwethaf, mae'r Bartneriaeth wedi sefydlu 28 o glybiau awyr agored cymunedol NEWYDD sy'n amrywio o feicio mynydd, dringo, canwio, caiacio mor, cerdded bryniau, mordwyo strydoedd, i glybiau aml weithgaredd. Llynedd fe dderbyniodd y Bartneriaeth 5000 mil gan Arian i Bawb a gyda'r arian yma hyfforddwyd 49 o arweinwyr gwirfoddol o fewn y clybiau yma. Ar hyn o bryd mae gan y clybiau cymunedol dros 1700 o aelodau sy’n darparu ar gyfer ieuenctid, oedolion a theuluoedd.
 
Clwb Antur y Borth yn derbyn £1200 i brynu offer dringo newydd!
13/03/2009
 
Newyddion
Clwb Antur y Borth yw'r clwb awyr agored diweddaraf i dderbyn cyllid cyfalaf gan Gyngor Chwaraeon Cymru, wedi ei weinyddu gan y Bartneriaeth Awyr Agored. Bydd y clwb, sy'n derbyn cefnogaeth gan y Bartneriaeth Awyr Agored yn prynu offer dringo newydd ar gyfer aelodau'r clwb.
 
Gweithgareddau Awyr Agored dros Hanner Tymor yn hynod o boblogaidd yn Sir Fon!
13/03/2009
 
Newyddion
Dros wyliau'r hanner tymor cynhaliodd Partneriaeth Plas Cybi yng Nghaergybi ddiwrnod o weithgareddau seiclo ar gyfer pobl ifanc yng Nghaergybi . Trefnwyd y diwrnod ar y cyd rhwng tim diogelwch ffyrdd y Cyngor a’r Bartneriaeth Awyr Agored, gyda'r tim diogelwch ffyrdd yn trefnu sgiliau diogelwch ffyrdd gyda’r Bartneriaeth yn cyflwyno sgiliau beicio mynydd sylfaenol i'r bobl ifanc. Y gobaith yw bydd y gweithgareddau seiclo yn parhau gyda chwrs cynnal a chadw beic ar gyfer y dyfodol.
 
Rhaglen Gweithgareddau Awyr Agored Gwyliau'r Pasg, Conwy
11/03/2009
 
Newyddion
Yn dilyn llwyddiant rhaglen wyliau Antur Awyr Agored y llynedd, eleni rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu ein cyrsiau ymhellach i alluogi teuluoedd, plant a phobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau mewn amryw o weithgareddau awyr agored. Gweithgareddau yn cynnwys: Dringo ac Abseilio, Cyflwyniad a sesiwn gwella; Canwio a Chaiacio, Cyflwyniad a sesiwn gwella; Beicio Mynydd, Cwrs sgiliau Llwybr Haearn Cyfeiriannu, Cyflwyniad a sesiwn gwella; Cloddio, Cyflwyniad; Cerdded Ceunant, sesiynau ½ diwrnod; Sgio ac Eira fyrddio, sesiynau ½ diwrnod; Cwrs Rhaffau Uchel, sesiynau ½ diwrnod.
 
Prosiect Ysgolion Cymunedol – Rhywbeth newydd yn Ysgolion Conwy !
11/03/2009
 
Newyddion
Mewn ymdrech ar y cyd i wella cyfleoedd gweithgareddau awyr agored i blant ysgolion cynradd o fewn y cwricwlwm ac yn allgyrsiol, mae meysydd chwarae ysgolion yn newid!! Fydd yna gwasanaeth mentora o ansawdd uchel i athrawon gan ddefnyddio'r Cardiau Dysgu Awyr Agored – gan wella eu hyder a’u gallu i ddarparu Gweithgareddau Antur Awyr Agored o fewn y cwricwlwm. Darpariaeth cyfleoedd allgyrsiol cymunedol i blant. Ddarpariaeth hyd at 50 y cant or cyllid i gefnogi adeiladu waliau clogfaen ym mhob ysgol yn y sir, a llawer mwy...
 
Clybiau Ieuenctid Conwy yn Abseilio er budd Elusen !!
11/03/2009
 
Newyddion
Ar 28 MAWRTH 2009
Bydd Gwasanaeth Ieuenctid Conwy mewn partneriaeth gyda Phartneriaeth Awyr Agored yn paratoi i herio eu hofnau o uchder, trwy abseilio 100 troedfedd i godi arian ar gyfer rhaglenni gweithgareddau 2009. Er mwyn i'r bobl ifanc weld gwerth y rhaglenni gweithgareddau sy'n cael eu darparu yn y sir, a chefnogi cost eu rhaglen weithgareddau, bydd rhaid i'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan gasglu eu harian nawdd eu hunain ar gyfer y dydd.
 
Gwirfoddolwyr newydd gymhwyso - Clwb Antur Ynys Mon!
09/03/2009
 
Newyddion
Mae tri aelod o Glwb Antur Ynys Mon wedi llwyddo'n ddiweddar yn asesiad y Dyfarniad Wal Ddringo yng Nghanolfan Ddringo Aberhonddu. Roedd Gwenno Wyn, Gethin Thomas a Chris Evans yn llwyddiannus ac maent yn awr yn gallu arwain grwpiau ar waliau artiffisial. Mae Chris yn haeddu cael ei grybwyll yn arbennig fel aelod cyntaf y Clwb i ennill Dyfarniad Corff Llywodraethu Cenedlaethol.
 
Caiac a canw 'Ex-Demo' ar werth yn Surflines!
09/03/2009
 
Newyddion
Siop Surf-Lines
Caiac a canw 'Ex Demo', Surf-Lines Adventures Ltd. Unedt 2, Y Glyn, Llanberis, Gwynedd. LL55 4EL. Rhif ffon-01286 879001 ebost- shop@surf-lines.co.uk www.surf-lines.co.uk. Cyntaf i'r felin ceith falu!!
 
Sesiynau Caiacio Geidiaid y Fali
09/03/2009
 
Newyddion
Mae Ail Geidiaid y Fali ar hyn o bryd yn rhedeg cwrs cyflwyniad i gaiacio ar gyfer eu haelodau drwy’r hyfforddwr Caiacio lleol Andy Short. Roedd y geidiaid yn llwyddiannus yn eu cais i Gyngor Chwaraeon Cymru am grant y Gist Gymunedol i gynorthwyo i dalu am y sesiynau, sy’n cynnwys chwe sesiwn pwll a 2 sesiwn awyr agored yn ardal Caergybi. Mae'r Grwp yn anelu at gynnig mwy o gyfleoedd amrywiol ar gyfer genethod yn yr ardal ac at ddenu mwy o aelodau.
 
Noson o adloniant yng nghwmni Dewi Pws !!
09/03/2009
 
Newyddion
6 EBRILL 2009 - PLAS Y BRENIN
Mae Partneriaeth Awyr Agored gyda Menter Iaith Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri wedi trefnu noson o adloniant yng nghwmni Dewi Pws ar 6 Ebrill ym Mhlas y Brenin. Dewi Pws yw un o actorion mwyaf doniol Cymru; fforiwr; comedïwr; canwr; ac anturiwr. Does dim llawer nad yw Dewi wedi'i gyflawni yn ystod ei fywyd lliwgar. I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, cliciwch ar y ddolen gyswllt.
 
Rhoi Cynnig ar Marchogaeth!
13/02/2009
 
Newyddion
Sesiwn Blasu Marchogaeth - Dydd Sul 22ain Chwefror
A Cwrs 5 Wythnos yn cychwyn 1af Mawrth 2009
10.45yb i 12yh
Yng Canolfan Farchogaeth Ynys Môn, Tal-Y-Foel, Dwyran. Mae'r sesiwn yn rhad ac AM DDIM i gyfranogwyr Mentro Allan. Mae'r prosiect Mentro Allan wedi ei anelu tuag at ferchaid ifanc o oedran 16 i 30.
 
Rhaglen Gweithgareddau Awyr Agored Hanner Tymor Conwy!
13/02/2009
 
Newyddion
14-22 Chwefror
Sesiwn sgio llethr sych, cwrs antur brig y coed, hanner diwrnod cyflwyno ddringo i blant, hanner diwrnod cyfeiriannu i blant, cyflwyniad i ddringo creigiau, cyflwyniad i caiacio a canwio, diwrnod antur i'r teulu, sesiwn beicio mynydd i ferched a genethod, gwyl cyfeiriannu i'r teulu. Gweithgareddau hanner diwrnod a diwrnod llawn i blant, pobl ifanc a theuluoedd!
 
Cynllun Cyflawni Dringo Dan Do Cenedlaethol
03/02/2009
 
Newyddion
Mae llawer o fudiadau, ysgolion (cynradd ac uwchradd), colegau a clybiau dringo wedi dango diddordeb mewn defnyddio’r Cynllun Cyflawni i’w myfyrwyr ac aelodau clwb fel ffordd o gyflwyno unigolion i ddringo ac hefyd i ddatblygu eu sciliau mewn fframwaith trefnus. Gall y Cynllun Cyflawni ei gyflwyno i unigolion fel rhan o’u addysg o fewn amgylchedd ysgol neu coleg neu ffordd o gymhwyso eu datblygiad mewn cyd-destyn dringo.
 
Clybiau Awyr Agored NEWYDD i ysgolion Mon!
02/02/2009
 
Newyddion
Mae gan Ynys Mon yn awr ei chlwb dringo ac antur ar ol ysgol wedi ei leoli mewn ysgol gynradd. Clwb dringo ar ol ysgol yw Clwb Antur Ysgol y Borth a sefydlwyd gan rai athrawon a rhieni brwdfrydig, ac sydd ar hyn o bryd yn cynnig sesiynau dringo cychwynnol wrth wal Ddringo Maes Glas, gyda sesiynau datblygu pellach yn yr Indi......
 
SWYDD WAG - Hyfforddwr Morio Tymhorol
30/01/2009
 
Newyddion
Cyflog £23,160 pro-rata
1 Mawrth – 30 Tachwedd 2009
Mae Canolfan Chwaraeon Dwr Plas Menai sydd ar lan y Fenai yn y Gogledd yn trefnu a chynnal amrywiaeth eang o raglenni chwaraeon dwr gan gynnwys hwylio, canwio, gwyntsyrffio, cychod pwerus, meithrin tim a morio alltraeth. Hoffem benodi Hyfforddwr Hwylio i ymuno a'r tim ymroddedig o staff yma ym Mhlas Menai, ac yn ddelfrydol, bydd yn gallu cynnal cyrsiau theori ar y lan hefyd.
 
Cydnabod llwyddiant antur yng Ngwobrwyon Chwaraeon Conwy 2008!
06/01/2009
 
Newyddion
Roedd nifer o bobl sydd wedi disgleirio ar lwyfan y byd ac Ewrop eleni, ymysg yr enillwyr pan gyhoeddwyd gwobrau chwaraeon Bwrdeistref Sirol Conwy yn Venue Cymru, Llandudno dydd Gwener 14 Tachwedd.
 
Conwy'n cyrraedd y brig mewn cystadleuaeth dan do!
06/01/2009
 
Newyddion
Cynhaliodd Clwb Dringo Prestatyn y gystadleuaeth dringo clogfeini gyntaf ar eu wal ym Mhrestatyn ar 14 Rhagfyr . Cafwyd ymateb anhygoel gan aelodau clybiau Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy a Chanolfan Hamdden Cyffordd Llandudno cyn y gystadleuaeth. Ar ol gaeaf hir o ymarfer ar nosweithiau'r 2 glwb, roedd hwn yn gyfle iddynt ddringo gyda dringwyr eraill o'r un natur o'r ardal.
 
Gweithgareddau Awyr Agored i pobl ifanc hefo anabledd Mon
30/12/2008
 
Newyddion
O Chwefror i Ebrill 2009
mae pobl ifanc Mon yn cael y cyfle i cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn rhad ac am ddim. Mae'r sessiunau yn cynnwys diwrnodau llawn, hanner diwrnod, ac nosweithiau o weithgareddau fel dringo, cyferiannu a'r cwrs rhaffau uchel enwog y canolfan.
 
Ydych chi am fod yn iach yn 2009? Cyrsiau Beicio Mynydd Merched a Genethod yn dod yn fuan!
30/12/2008
 
Newyddion
O fis Ionawr tan fis Mawrth, bydd Conwy'n cynnal cyfres o gyrsiau datblygu Beicio Mynydd, mewn partneriaeth a 1Bike1 (Snowdonia Cycle Hire and Training). Mae'r cyrsiau hyn wedi'u hanelu at bobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd. Trefnwyd 3 penwythnos i ddatblygu eich sgiliau beicio mynydd. Felly oes diddordeb gennych mewn dechrau, neu os oes angen cyngor a hyfforddiant arnoch sut i ddatblygu, mae rhywbeth yma i bawb!
 
Cwrs dringo newydd i deuluoedd!
30/12/2008
 
Newyddion
Yn dilyn ad-drefnu rhaglenni dringo presennol canolfannau hamdden Dyffryn Conwy a Chyffordd Llandudno, maent ar hyn o bryd yn derbyn enwau ar gyfer cyrsiau rhaglenni dringo Teuluoedd a Phlant yn Ionawr 2009 (Rhaid cael lleiafswm o 6 ar bob cwrs).
 
Dringo dan do i ddechreuwyr yng Nghlwb Dringo Merched Mentro Allan!
12/12/2008
 
Newyddion
Yn dechrau Ddydd Iau 15eg Ionawr 2009 - 6yh i 8yh
Wal Ddringo Indi, Llanfairpwll
Mae'r Clwb yn rhad ac AM DDIM i gyfranogwyr Mentro Allan. Mae'r priosect Mentro Allan wedi ei anelu tuag at ferchaid ifanc oed 16 i 30.
 
Mae Adroddiad Blynyddol 2007-2008 ar gael nawr i’w lawrlwytho!
12/12/2008
 
Newyddion
Mae'r adroddiad yn cynnwys rhai o'n prif lwyddiannau yn ystod ein trydedd flwyddyn o weithredu trwy gyfres o astudiaethau achos ag yn tynnu sylw at rai o’r sialensiau sy’n wynebu'r Bartneriaeth wrth i ni symud ymlaen i'r 2il gyfnod (2009-2012).
 
Ar gael nawr! Y fersiwn diweddaraf o Lyfryn y Clybiau Awyr Agored
12/12/2008
 
Newyddion
Mae'r fersiwn diweddaraf o Lyfryn y Clybiau Awyr Agored ar gael nawr fel copi caled neu i'w lawrlwytho. Mae llyfryn 2009 yn cynnwys 15 clwb newydd a gyda manylion diweddaraf o’n holl glybiau antur awyr agored yng Ngogledd Orllewin Cymru.
 
Sel offer i glybiau awyr agored yn Surflines!
11/12/2008
 
Newyddion
Mae gennyn ni gynnig cychod hydref i’ch aelodau. Cewch aelodau eich clybiau 15 y cant i ffwrdd o’r cychod canlynol - Pyranha Z:one Oren a llwyd M x1 649.00 = 551.65. Pyranha Z:one glas a gwyn M x1 649.00= 551.65. Pyranha Karnali melyn ag oren L x1 649.00 =551.65. Pyranha leim a melyn M x1 889.00 =755.65. Liquidlogic Jeffe White 799.95 =679.95. A llawer fwy o gynigion …
 
Rydym yn chwilio am siaradwyr Cymraeg i arwain grwpiau ieuenctid sy'n siarad Cymraeg ar alldeithiau tramor.
09/12/2008
 
Newyddion
Ydych chi wedi arwain alldaith ysgol / grwp ieuenctid o'r blaen? Ydych chi wedi trafeilio trwy gwledydd y byd datblygol? Ydych chi eisiau helpu i ddysgu pobl ifanc Cymraeg yn y dull o drafeilio'n gyfrifol, mewn ffordd sydd yn garedig i'r amgylchedd? Ydych chi eisiau helpu pobl ifanc Cymraeg i drafeilio'r byd a dysgu am y byd trwy gyfrwng y Gymraeg?
 
Y Maes Awyr Agored yn dathlu yn Gwobrau Chwaraeon Ynys Mon!
09/12/2008
 
Newyddion
Roedd Gwobrau Chwaraeon Ynys Mon 2008 wedi cael eu cynnal yn canolfan hamdden Beaumaris ar y 26ain o dachwedd. Y gwr gwadd am y noson oedd y dringwr ifanc o Bethesda Ioan Doyle. Ar ol ffilm byr o Ioan yn Dringo yn wahannol llefydd, siaradoedd Ioan am tyfu i fynnu yn Bethesda a dysgu i ddringo.
 
Gwerth 23 mil o gyllid SBLASH i'r ganolfan chwaraeon dwr cymunedol ym Mhorthmadog
12/11/2008
 
Newyddion
Yn ddiweddar derbyniodd Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru werth 23 mil o gyllid gan SBLASH, cronfa Her Hamdden Dwr i Gymru. Bydd cyllid y flwyddyn gyntaf yn mynd tuag at brynu offer chwaraeon dwr er budd y gymuned yn ardal Porthmadog, ac at adeiladu stordai parhaol ar eu cyfer.
 
Cwrs beicio un diwrnod i pobl lleol Mon
12/11/2008
 
Newyddion
Mae Hyfforddiant Beicio Cymru’n darparu cymhwyster Cefnogaeth Beicio Oddi ar y Ffordd achrededig gan OCN, a gynlluniwyd ar gyfer pobl a fyddai'n hoffi arwain grwp ar lwybrau di draffig. Mae'r cwrs yn addas i grwpiau cymunedol, athrawon ac arweinwyr ieuenctid i arwain grwpiau ar dir gwastad a hawdd.
 
Rhoi Cynnig ar Gaiacio Mentro Allan
12/11/2008
 
Newyddion
Cwrs blasu caiacio dan do. Yn dechrau Ddydd Mercher 12ed Hydref 8.30yn i 10yh am 6 wythnos yng Nghanolfan Hamdden Caergybi. Mae'r cwrs yn rhad ac AM DDIM i gyfranogwyr Mentro Allan. Mae'r prosiect Mentro Allan wedi ei anelu tuag at ferchaid ifanc o oedran 16 i 30.
 
Swydd wag: Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored (Sir y Fflint)
11/11/2008
 
Newyddion
Cyn hir bydd Cyngor Sir y Fflint yn hysbysebu am Swyddog Datblygu Awyr Agored i ddatblygu gweithgareddau awyr agored yn y sir. Am ddisgrifiad swydd a manyldeb person, neu i gael sgwrs anffurfiol ynglyn a'r swydd cysylltwch a Sian Williams yn Adran Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir y Fflint.
 
Gweithdy Hyfforddi Perfformwyr Anabl
10/11/2008
 
Newyddion
14 Tachwedd 2008 / 28 Mai 2009
Maes Glas, Bangor / Canolfan Hamdden Glan Wnion, Dolgellau 6.00-9.00pm
Cost i fynychu'r cyrsiau fydd 10 punt y pen sy'n cynnwys pecyn gwybodaeth a lluniaeth ar y noson. Am fwy o fanylion ar y cyrsiau neu i sicrhau lle ar gwrs cysylltwch a Marcus Politis, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd ar 01758 704 109
 
Gweithdy Tegwch yn eich Hyfforddiant
10/11/2008
 
Newyddion
2 Mawrth 2009
Canolfan Hamdden Glaslyn, Porthmadog 6.00-9.00pm
Cost i fynychu'r gweithdy fydd 10 punt y pen sy'n cynnwys pecyn gwybodaeth a lluniaeth ar y noson. Am fwy o fanylion ar y cyrsiau neu i sicrhau lle ar gwrs cysylltwch a Marcus Politis, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd ar 01758 704 109.
 
Clinigau Padlo a Chyrsiau Undeb Canwio Prydain (UCP) ar gyfer Arweinwyr a Hyfforddwyr Clybiau
10/11/2008
 
Newyddion
Cyrsiau i 2009
Rhestr cynhwysfawr o clinigau padlo a chyrsiau Undeb Canwio Prydain i 2009! Yn ychwanegol i'r cyrsiau a clinigau fydd 'na penwythnosau pdatblygu, penwythnosau diweddaru'ch cymwysterau hyfforddi, trafodaethau, gwyliau a chyfarfodydd, hyfforddiant penodol ar gyfer anghenion eich clwb, sesiynau mentora hyfforddwyr, ac asesiadau ffug.
 
Cyfres o sesiynnau blasu i blant a phobl ifanc yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Conwy
30/10/2008
 
Newyddion
Bydd Partneriaeth Awyr Agored Conwy a chlybiau awyr agored lleol yn cynnal cyfres o sesiynnau blasu mewn beicio mynydd, dringo a chyfeiriannu i blant a phobl ifanc yr ardal Dydd Sadwrn 1af o Dachwedd. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yr un pryd a Llanast Llanrwst, cyfres o ddigwyddiadau diwylliannol a chymdeithasol yn y dref yn ystod 2008.
 
Cytundebau 3 a 6 mis ar gael RWAN yn yr United Arab Emirates!
23/10/2008
 
Newyddion
Enillwch i fyny at £16000
Yn cynnwys ticedi awyren, llety mewn gwesty ac yswiriant, Lwfans cynhaliaeth i fyny at £1800. Costau trafeilio i faes awyr yn y D.U. Ffoniwch heddiw a derbynnwch £175 yn ychwanegol fel ffi rhybudd hwyr. Dyddiad dechrau Tachwedd 1af. Am wybodaeth pellach ffoniwch Deborah Clarke ar 01286 871888.
 
Gweithgareddau Awyr Agored dros Hanner Tymor yr Hydref 2008!
16/10/2008
 
Newyddion
Dros hanner tymor mae disgyblion o ysgol uwchradd Caergybi a Ysgol David Hughes , Porthaethwy yn cael cyfle i datblygu sgiliau dringo a weithgareddau anturus eraill, hefo Partneriaeth Awyr agored ac y cynllyn 5x60 sydd yn rhedeg yn yr ddwy ysgol. Fydd y cyfle i treulio dau ddiwrnod yn y Canolfan Conwy ger y Fenai.
 
Cyfleoedd Awyr Agored i Ferched yng Nghonwy!
14/10/2008
 
Newyddion
YN CYCHWYN 25 HYDREF 2008
Ar Ddydd Sadwrn 25ain o Hydref, bydd cyfleoedd dringo yn cael eu lansio ym Mhlas y Brenin, lle bydd yr ail gwrs datblygu dringo i Ferched yn cychwyn. Yn ogystal a chyrsiau datblygu penodol, mae'r Bartneriaeth Awyr Agored gyda rhaglen o weithgareddau i hyrwyddo cyfleoedd i ferched yn yr awyr agored sydd yn cynnwys gweithgareddau blasu mewn canwio a cheufadu, dringo, sgio a eirfyrddio, mwyngloddio, a beicio mynydd i cyrsiau hyfforddi a chyrsiau i Fam a merch.
 
Cymorth Achub ac Argyfwng REC yn dod yn fuan!
13/10/2008
 
Newyddion
15 a 16 TACHWEDD 2008
CWRS YN LLAWN! FYDDEM NI'N RHEDEG MWY O GYRSIAU CYMORTH ACHUB AC ARGYFWNG YN 2009 (yn ddibynnol ar cronfeydd)
Canolfan Conway, Llanfairpwll, Ynys Mon
Dyma gwrs ymarferol 2 ddiwrnod o hyd sy'n addas ar gyfer Athrawon , Hyfforddwyr Awyr Agored, dringwyr a chanw-wyr. Caiff ei gydnabod fel y cymhwyster lleiaf ar gyfer HAMP, cymwysterau AM haf a gaeaf, Cymhwyster Goruchwylwyr Dringen Sengl, SHB, UCP, SHSP, ASSI, SCP a gan y rhan fwyaf o Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol eraill.
 
Cwrs Hyfforddiant Arweinydd Mynydd cymorthdaledig i bobl leol!
13/10/2008
 
Newyddion
Dydd Sul 26 Hydref - Dydd Gwener 31 Hydref 2008
Canolfan Addysg Awyr Agored Bwthyn Ogwen (Ogwen Cottage)
Cost - £250
 
Cymorth Achub ac Argyfwng REC
11/10/2008
 
Newyddion
21 a 22 CHWEFROR 2009
Canolfan Conway, Llanfairpwll, Ynys Mon
Dyma gwrs ymarferol 2 ddiwrnod o hyd sy'n addas ar gyfer Athrawon , Hyfforddwyr Awyr Agored, dringwyr a chanw-wyr. Caiff ei gydnabod fel y cymhwyster lleiaf ar gyfer rhanfwyaf o Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol.
 
Hyfforddiant Cymhwyster Dringo Wal yn dod yn fuan!
08/10/2008
 
Newyddion
6 a 7 RHAGFYR 2008 - PLAS Y BRENIN
1 LLE AR OL!
Mae'r cwrs hyfforddi 2 ddiwrnod yn canolbwyntio ar y sgiliau a'r rhinweddau arwain sydd ei angen i gyflwyno a goruchwylio dringwyr nofis i'r rhaff dop nodweddiadol ac i waliau dringo bowldro. Bydd y Cymhwyster yma'n apelio at athrawon, arweinwyr ieuenctid, goruchwylwyr Dug Caeredin ac aelodau o glybiau awyr agored.
 
MENTER IEUENCTID ERYRI!
08/10/2008
 
Newyddion
Profiad anhygoel i chi! Os wyt ti rhwng 12 a 24 mlwydd oed a diddordeb i wneud gwahaniaeth fe alli di gymryd rhan yn y prosiect gwych yma yn Eryri - a'i fwynhau!
 
Plant yn Cyrraedd y Brig yng Nghanolfan Ddringo Beacon, Waunfawr
08/10/2008
 
Newyddion
Dydd Sadwrn, Medi 27ain, bu 45 o blant a phobl ifanc yn paratoi eu hunain ar gyfer cystadleuaeth Dringo Clogwyni ar gyfer tymor newydd yr ysgol wedi ei drefnu gan Ganolfan Beacon. Croesawyd plant a phobl ifanc lleol ac o bell i'r ganolfan oedd yn llawn egni gyda chymysgfa o gefnogwr a chystadleuwyr.
 
Hanner Tymor o weithgareddau antur awyr agored yng Nghonwy!
08/10/2008
 
Newyddion
27-31 MIS HYDREF 2008
Ydych chi'n byw yng Nghonwy ag yn ffansio tipyn o Antur dros wyliau hanner tymor? Os ydych, mae 'a deithiau dydd i Nant Bwlch yr Haearn wedi yw trefnu i bobl ifanc rhwng 11 a 15 oed. Mae’r gweithgareddau yn cynnwys Rhaffau Uchel a Cherdded Ceunant. Dim ond 15 lle sydd ar gael a byddant yn cael eu rhoi ar sail y cyntaf i'r felin a fydd rhaid archebu lle o flaen llaw!
 
Penwythnos hyfforddiant mordwyo yn dod yn fuan!
07/10/2008
 
Newyddion
18 a 19 HYDREF 2008
Diddordeb bod yn Arweinydd Mynydd neu yn syml eisiau datblygu eich sgiliau mordwyaeth? Mae'r cwrs penwythnos ymarferol yma yn darparu cyfle gwych i chi ddysgu sgiliau newydd a choethi eich techneg! Fyddwch chi'n cyflawni bob agwedd o fordwyaeth yn gadael chi'n fedrus o gael hyd i'ch ffordd eich hun yn fedrus, yn ystod y dydd neu'r nos ac mewn tywydd drwg. Nifer cyfyngedig, rhaid archebu lle!
 
Cael at Offer Awyr Agored yn Sir Fon!
07/10/2008
 
Newyddion
Bydd Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru a Uned Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Ynys Mon yn lansio storfa offer Awyr Agored newydd. Gyda chymorth cronfa gyfalaf ffordd o fyw egniol, Cyngor Chwaraeon Cymru, mae'r sir wedi datblygu storfa offer yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni a fydd yn darparu ar gyfer anghenion grwpiau, clybiau, ysgolion, clybiau ieuenctid, sefydliadau ac asiantaethau sy'n dymuno cael mynediad at yr awyr agored.
 
Diwrnod Antur Awyr Agored i Pobl Ifanc gyda Anabledd
17/09/2008
 
Newyddion
Dydd Sadwrn 18ain Hydref
Oedran 8 – 12 blwydd 9.00yb – 1.00yh / Oedran 13 – 16 / blwydd 1.00yh – 5.00yh. Cyfarfod yn y Canolfan Conwy, Llanfairpwll, LL61 6DJ. Un Rhiant /Gofalydd I aros am y sessiwn. £5 y person, fydd rhaid archebu lle o flaen llaw.
 
Swydd Hyfforddi/person Storfa
17/09/2008
 
Newyddion
DYDDIAD CAU: 08/10/08
Mae Gwasanaeth Addysg Breswyl Sandwell yn chwilio am hyfforddwr/person storfa i weithio yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Plas Gwynant yn Nant Gwynant, Eryri. 0.8 FTE Level Hyfforddwr 2/person storfa. Tymor dwy flynedd (yn cychwyn 05/01/2009) £18629 - £22145 pro rata.
 
Diwrnod Mordirio Arfordir Mon
10/09/2008
 
Newyddion
DYDD SADWRN, MEDI 20fed 2008
Diwrnod o hwyl i'r teulu i gyd. Nod y diwrnod yw rhoi i bobl gyfle i brofi harddwch naturiol yr arfordir o safbwynt gwahanol, tra hefyd yn cael lot o hwyl wrth wlychu. Bydd y dydd yn cael ei arwain gan arweinwr proffeniynol o Ganolfan Cenedlaethol Chwaraeon Dwr Plas Menai.
 
Diwrnod Canwio i'r teulu ym Mhenmaenpool
10/09/2008
 
Newyddion
DYDD SADWRN MEDI 20, 2008 o 10 am
Cael eich teulu i ganwio! Sesiwn dewch i drio YN RHAD AC AM DDIM. Penmaen-pwl, maes parcio'r Parc Cenedlaethol, Dolgellau. Yn ychwanegol: Her Quadathlon (beicio, padlo, rhedeg a nofio) ac arddangosiadau padlo gan glybiau a padlwyr lleol.
 
£1000 Cymorth Cyst Cymunedol tuag at sesiynau newydd ddringo ym Mhorthmadog
10/09/2008
 
Newyddion
Bu Clwb Antur Glaslyn yn llwyddiannus yn sicrhau £1,000 grant Cyst Cymunedol y Cyngor Chwaraeon Cymru i brynu offer ddringo er mwyn datblygu adran dringo newydd i'r clwb. Y bwriad i gychwyn yw creu linc gydag ysgol Eifionydd a gwneud defnydd o'r wal ddringo newydd.

 
Hyfforddiant / Ymwybyddiaeth Addysg Awyr Agored i Ysgolion Gwynedd a Mon!
10/09/2008
 
Newyddion
Tymor yr Hydref 2008
Bydd ddyddiau Hyfforddiant / Ymwybyddiaeth Addysg Awyr Agored yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Awyr Agored Rhyd Ddu Gwynedd yn ystod tymor yr hydref 2008. Fydd yr hyfforddiant ar gael i ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd Gwynedd a Mon i roi datblygu sgiliau sylfaenol, wybodaeth a hyder i ymdrin a rhai gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd.
 
Proffil Clwb - Clwb Beicio Mynydd Dyffryn Conwy
19/08/2008
 
Newyddion
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r clwb wedi trefnu nifer o weithgareddau, o gystadlaethau Cyfeiriannu Beicio Mynydd, i sesiynau datblygu sgiliau, sesiynau cynnal beiciau a theithiau merched yn unig. Hefyd, treuliodd aelodau'r clwb bum niwrnod yn beicio oddi ar y ffordd o Gonwy i Abertawe i godi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant ac Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru.
 
Gwyl Beicio Eryri 2008!
19/08/2008
 
Newyddion
COEDWIG BEDDGELERT - 27 MEDI 2008
DIWRNOD O HWYL AR FEIC MYNYDD
Diwrnod o weithgareddau mewn lleoliad pyrdferth ar gyfer y teulu a dechreuwyr i ddatblygu sgiliau beicio mynydd. Bydd beiciau ar gael i'w llogi gan Beics Beddgelert, hefyd bydd gwersylla ar gael yn y goedwig.
 
Fuoch chi'n dymuno mynd i ddringo creigiau, canwio neu arfordiro yn Eryri?
13/08/2008
 
Newyddion
Os felly, yna mae iTry i chi!
Rydym wedi dod ynghyd ddetholiad o rai o'r cwmniau antur gorau yng Ngogledd Cymru. Mae un galwad ffon yn sicrhau mynediad ichi i rai o'r anturiaethau mwyaf cyffrous sydd o gwmpas.
 
Dyddiad Agored Rhad ac am Ddim ym Mhlas Menai!
12/08/2008
 
Newyddion
Troi angerdd yn yrfa - 27.09.08
Mae ein dyddiau cipolwg yn cael eu cynnal i'ch helpu i ddysgu am hyfforddi a gweithio yn y diwydiannau chwaraeon dwr a hwylio. Boed yn dechrau arni, yn newid gyfeiriad, ar flwyddyn fwlch neu'n cael seibiant yn eich gyrfa, ymunwch a ni i ddysgu mwy am ennill cymwysterau a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn eich galluogi i weithio yn y diwydiannau cyffrous a deinamig hyn.
 
Sesiwn Canwio ar gyfer Pobl Ifanc Anabl
29/07/2008
 
Newyddion
Dydd Sadwrn 16eg Awst, 2008
Mae'r Bartneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru yn trefnu gweithgareddau canwio i bobl ifanc anabl. Mae'r gweithgareddau yn digwydd dros gwyliau'r haf i bobl ifanc o gogledd orllewin Cymru, yn cyfarfod yng Nglanllyn, Bala. 8 - 12 oed, - 9.30 – 13.00 / 13 – 16 oed, 13:30 - 5:00.
 
Penwythnos awyr agored Stiniog!
22/07/2008
 
Newyddion
Gweithgareddau'r penwythnos yn cynnwys taith cerdded i'r llynoedd, sesiwn blasu dringo, diwrnod ar y Moelwynion, cystadleuaeth pysgota ar Llyn Tanygrisiau, cyfle i flasu sesiynnau hwyl caiacio/canwio dan arweiniad clwb padlo Blaenau, a thaith drefol a hanesyddol gyda Rhian Williams.
 
Arloeswyr y Wobr Awyr Agored yn paratoi’r ffordd ar gyfer llawer mwy
15/07/2008
 
Newyddion
Gwnaeth cyflwyno gwobrau a digwyddiad cyfeiriadu cymryd lle yng Nghanolfan Hamdden Parc Eirias, Bae Colwyn ar ddydd Gwener 11 Gorffennaf 2008. Mae chwech o ysgolion yng ngogledd Cymru wedi canmol cynllun Gwobr Awyr Agored newydd i'r cymylau. Y flwyddyn nesaf, fe fydd y cynllun hwn yn cael ei gynnig i fwy o blant yn yr ardal.
 
Rhaglen gweithgareddau antur awyr agored yn Sir Fon yn ystod yr haf!
15/07/2008
 
Newyddion
Mae Cyngor Sir Fon a'r Bartneriaeth Awyr Agored yn cynnig diwrnodau gweithgareddau antur awyr agored i bobl ifanc o Sir Fon dros yr haf. Mae'r diwrnodau o weithgareddau ar gyfer bobl ifanc rhwng 11 - 16 oed. Mae'r gweithgareddau am ddim ac yn cynnwys cludiant.
 
Swyddog Datblygu Gweithgareddau Awyr Agored Newydd yn Sir Fon!
10/07/2008
 
Newyddion
Yr wythnos yma, croesawodd Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru aelod newydd i'w tim i gynorthwyo gyda gweithredu Strategaeth newydd PAAGOG ar Ynys Mon.
 
Rhaglenni Antur Awyr Agored Gwyliau’r Haf Conwy
10/07/2008
 
Newyddion
Cyfres o gyfleoedd diwrnodau a phreswyl i deuluoedd, ieuenctid a phlant ar gael fel rhan o raglen antur awyr agored gwyliau'r haf Conwy. Gweithgareddau yn cynnwys beicio mynydd 'free-ride', dringo, abseilio, canwio, caiacio, archwilio tanddaearol, cerdded ceunant, cyfeiriannu, ceffylau, cwrs rhaffau uchel, sgio a geirfaoedd a llawr mwy!
 
Siawns i bobl ifanc Cymraeg eu hiaith o Fôn brofi diwrnod o ddringo am ddim!
08/07/2008
 
Newyddion
Ar Orffennaf 19eg mae Menter Iaith Mon yn cynnig y cyfle i bedwar o bobl ifanc gwario diwrnod yn dringo am ddim. Mae'r cyfle ar agor i bobl ifanc dros 16 sydd yn siarad Cymraeg. Does ddim angen cael profiad blaenorol o ddringo - bydd y gweithgaredd yn addas ar gyfer dechreuwyr pur ac yn digwydd o dan oruchwyliaeth hyfforddwr cymwys a profiadol.
 
Clwb Gweithgareddau Awyr Agored Cyfrwng Cymraeg ar Ynys Mon
08/07/2008
 
Newyddion
Mae Menter Iaith Mon a'r Bartneriaeth Awyr Agored yn bwriadu sefydlu clwb gweithgareddau awyr agored, cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc yng nghanolbarth Ynys Mon.
 
Rhaglen Antur Awyr Agored yr Haf Gwynedd!
08/07/2008
 
Newyddion
Ydych chi'n yn byw yng Ngwynedd, dros 11 blwydd oed ac yn hoffi cymryd rhan mewn rhaglenni antur awyr agored cynhyrfus dros wyliau'r haf? Os ydych, mae'r Bartneriaeth Awyr Agored a Chyngor Gwynedd yn trefnu amryw o gyfleoedd dyddiol a chyfres o wythnosau mewn dringo, chwaraeon padlo, cerdded mynyddoedd, scramble, abseilio, rafftio a aml-gweithgareddau.
 
Gweithdy mewn Dull Diogelu a Diogelwch Plant AM DDIM yn dod yn fuan!
08/07/2008
 
Newyddion
10 MEDI 2008 - PLAS Y BRENIN
Ar gyfer amddiffyn eich hun a'r bobl ifanc rydych yn cydweithio a hwy rydych angen dealltwriaeth a dilyn ymarfer hyfforddi da. Dyma weithdy 3 awr i arweinwyr actif.
 
Gweithdy Hyfforddi Plant a Phobl Ifanc AM DDIM wedi yw AIL-AMSERI!
16/06/2008
 
Newyddion
1af HYDREF 2008 - PLAS Y BRENIN - 6.30-9.30pm
Darganfyddwch anghenion a symbyliad perfformwyr ifanc. Yn y gweithdy 3 awr yma byddwch yn dysgu sut i drosglwyddo sesiynau hyfforddi yn effeithiol ar gyfer cwrdd a lefel sgil, symbyliad a ffurf ddatblygol pob un cyfranogwr ifanc.
 
Gweithdy Dull Diogelu a Diogelwch Plant AM DDIM!
10/06/2008
 
Newyddion
DYDD MERCHER 2 GORFFENNAF 2008 - PLAS Y BRENIN - 6.30-9.30PM
Ar gyfer amddiffyn eich hun a’r bobl ifanc rydych yn cydweithio a hwy rydych angen dealltwriaeth a dilyn ymarfer hyfforddi da. Mae'r gweithdy yma AM DDIM i bawb sydd yn gweithio gyda phlant a phobol ifanc yn yr awyr agored.
 
Storfa Offer i bobl sy’n frwdfrydig am weithgareddau awyr agored yng Nghonwy
10/06/2008
 
Newyddion
Bydd Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru a Gwasanaethau Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn lansio storfa offer Awyr Agored newydd. Fydd yn darparu ar gyfer anghenion grwpiau, clybiau, ysgolion, clybiau ieuenctid, sefydliadau ac asiantaethau sy’n dymuno cael mynediad at yr awyr agored.
 
Pennod newydd i Glwb Antur Awyr Agored No Limits
10/06/2008
 
Newyddion
Mewn ymgais ar y cyd i gynyddu cyfleoedd gweithgareddau awyr agored i blant a phobl ifanc gydag anableddau, mae Clwb Antur Awyr Agored No Limits, yn Glwb Awyr Agored arloesol yn siroedd Conwy Gwynedd ac Ynys Mon.
 
Haf o Hwyl ac Antur yng Nghonwy!
10/06/2008
 
Newyddion
Yn dilyn llwyddiant rhaglen wyliau Antur Awyr Agored Conwy, mae'n argoeli y bydd rhaglen wyliau Antur yr haf hwn yn un llawn cyffro. Eleni rydym wedi datblygu ein cyrsiau i alluogi plant a phobl ifanc ddatblygu eu sgiliau mewn amrywiaeth o weithgareddau awyr agored.
 
Gwyl Cyfeiriannu i Ysgolion Cynradd Gwynedd
10/06/2008
 
Newyddion
Yn dilyn prosiect i fapio tir pob ysgol yng Ngwynedd, i alluogi athrawon i arwain sesiynau sylfaenol cyfeiriannu i'w disgyblion, mae 'na gyfres o wyliau cyfeiriannu i bob ysgol gynradd Gwynedd yn ystod tymor yr haf 2008.
 
Fforwm Clybiau Awyr Agored yn cychwyn yn Gwynedd
10/06/2008
 
Newyddion
Cynhaliwyd y fforwm clybiau awyr Agored Gwynedd cyntaf yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn Nos Fercher yr 30ain o Ebrill. Cafodd cynrychiolwyr o 14 o glybiau awyr agored y cyfle i drafod cyfleoedd cronfeydd, materion yswiriant , dull gweithredu i glybiau awyr agored a'r cynllun mentora'r Bartneriaeth Awyr Agored.
 
Grantiau Arian i Bawb Cymru
06/06/2008
 
Newyddion
Mae Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru wedi derbyn grant yn ddiweddar o £5000 gan gynllun Arian i Bawb Cymru y Loteri i hyfforddi arweinwyr gwirfoddol o fewn Clybiau awyr agored lleol. Mae'r grant wedi hyfforddi 49 o arweinwyr gwirfoddol. Mae gan y clybiau sy'n darparu ar gyfer ieuenctid, oedolion a theuluoedd ar hyn o bryd dros 1100 o aelodau.
 
Swyddog Datblygu Cymunedol Onboard
06/06/2008
 
Newyddion
Dyddiad Cau - 12 Mehefin 2008
Mae Canolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol Plas Menai, mewn partneriaeth a'r Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA), am benodi Swyddog Datblygu gweithgareddau cymunedol ganolfan a datblygu menter RYA bwysig, sef OnBoard, yn y Gogledd.
 
Gweithgareddau Hanner Tymor yng Nghonwy
21/05/2008
 
Newyddion
28-30 o Fai 2008
Swsiwn Blasu Caiacio, hanner diwrnod Ceuentio (Cerdded Afon) a diwrnod Datblygu Dringo. Mae'r llefydd yn brin. Bydd yr holl gyfarpar yn cael ei ddarparu. Y CYNTAF I’R FELIN GAIFF FALU.
 
SWYDD WAG - Tiwtor Cynorthwywr Addysg Awyr Agored
09/05/2008
 
Newyddion
DYDDIAD CAU - 31 MAI 2008
Mae Canolfan Conway yn ceisio recriwtio Tiwtor Cynorthwywyr Addysg Awyr Agored i weithio yn un o'r canolfannau addysg draws cwricwla preswyl ym Mhrydain.
 
Cyfleoedd dringo NEWYDD yng Nghonwy!
09/05/2008
 
Newyddion
Nos Fawrth,13eg o Fai, bydd cyfleoedd dringo yn cael eu lansio ym Mhlas y Brenin, lle bydd y gweithgareddau'n cynnwys cyrsiau datblygu oedolion, yn ogystal a chyrsiau hyfforddi gwirfoddolwyr y Corff Llywodraethu Cenedlaethol a chyrsiau cyflwyniad i ddringo ar gyfer teuluoedd.
 
Clinigau Hyfforddi Padlo Cymunedol CCC 2008
06/05/2008
 
Newyddion
Diwrnodau sgiliau *, Gwobrau *, Prawf Diogelwch Canŵio, Paratoi Trafodaeth, Mordwyo Croesfan Agored, Diwrnod Diogelwch Afon, Clinigau Rholio, Clinigau Hyfforddi, a fwy…
 
Swyddi Hyfforddwyr Cynorthwywyr
29/04/2008
 
Newyddion
Canolfan Mynydda Blue Peris, Gogledd Orllewin Cymru.
Rydym yn recriwtio 2 hyfforddwyr cynorthwywyr blwyddyn yma, yn cychwyn 1af Medi 2008 tan Awst 1af 2009. Mae cynllun Hyfforddwyr Cynorthwywyr yn darparu chi gyda chyfleoedd i gynorthwyo, gweithio ar y cyd gyda hyfforddwyr ag o bosib, o'r diwedd arwain nifer o weithgareddau awyr agored.
 
Gweithdy Dull Diogelu a Diogelwch Plant AM DDIM, yn dod yn fuan!
25/04/2008
 
Newyddion
Rydym wrthi ar hyn o bryd yn hel enwau i’r Gweithdy Dull Diogelu a Diogelwch Plant, fydd yn cael ei gynnal ym Mhlas Menai, y Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Dwr, ger Caernarfon, rhyw ben ym mis Mehefin.
 
Datblygu ac Ehangu eich Clwb!
25/04/2008
 
Newyddion
Gweithdy Cynllun Datblygu Eich Clwb AM DDIM ym Mhlas y Brenin
DYDDIAD NEWYDD - 4 MEHEFIN 2008
Bydd y Gweithdy RunningSports yn 3 awr o hyd ac yn canolbwyntio ar bopeth rydych angen ei wybod am gynhyrchu cynllun datblygu effeithiol ar gyfer eich clwb. Dewch i ymuno gyda ni a chwrdd hefo clybiau awyr agored eraill yng Ngogledd Orllewin Cymru.
 
Eisteddfod yr Urdd - Sir Conwy
26-31 Mai 2008
25/04/2008
 
Newyddion
Dyma gynnig gwych i rai sy’n chwilio am antur a chynnwrf gwahanol i’r arfer yn eu bywydau! Fel rhan o gynllun rhwng Antur TT Adventure ger Betws y Coed ac Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy, am bris gostyngol, mae dau brynhawn penodol wedi eu clustnodi i rai sy’n hoffi uchder a sialens. Rhan o waith cronfa apêl yr ŵyl genedlaethol ddaw i Fae Penrhyn ddiwedd mis Mai (26 – 31 Mai) yw’r cynllun arbennig hwn.
 
Recriwtio Gwirfoddolwyr ar gyfer Clwb Dringo No Limits
14/04/2008
 
Newyddion
Hoffech chi weithio gyda phobl ifanc gydag anableddau yn yr awyr agored? Os felly, bydd Clwb Dringo No-Limits, sydd wedi ei leoli yng Nghyffordd Llandudno, yn trefnu dyddiau i recriwtio gwirfoddolwyr yn y misoedd nesaf.

8fed o Fai 2008-6.00-8.30yh-Sesiwn Dringo-Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno
15fed o Fai 2008-6.00-8.30yh-Sesiwn Cyfeiriannu yng Nghoedwig Niwbwrch
20fed o Fai 2008-6.00-8.30yh-Sesiwn Canŵio yn Llyn Padarn
 
Antur dros y Pasg i ieuenctid Gwynedd!
11/04/2008
 
Newyddion
Yn ystod gwyliau’r Pasg bu disgyblion o Ysgol Syr Hugh Owen ac Ysgol Brynrefail yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau awyr agored yng Nghanolfan Awyr Agored Llanrug.
 
Clwb awyr agored NEWYDD yn ardal Bermo/ Dolgellau!
11/04/2008
 
Newyddion
Ydych chi’n byw yn ardal Bermo / Dolgellau? A fyddai diddordeb gennych mewn helpu i sefydlu clwb awyr agored NEWYDD ar gyfer yr ardal?
 
Cyfarfod Blynyddol Clwb Padlo Dysynni
11/04/2008
 
Newyddion
28ain o Ebrill - Y Cyfarfod Blynyddol, Peniarth Arms, Bryncrug

Mae’n rhaid i ni gael o leiaf 25% o’r holl aelodau yn bresennol - ceisiwch fod yno os gallwch chi. Os oes diddordeb gan yr unigolion ifanc i ymuno â’r Pwyllgor Rheoli fel Cynrychiolwyr o’u hoedran hwy yna siaradwch gyda’r aelodau eraill a gyrru eich enwebiad ataf i erbyn 27ain o Ebrill.
 
Rôl Mentora i Gynorthwywr Canolfan ym Mhlas y Brenin
11/04/2008
 
Newyddion
Bydd Peter Mayers, sy’n Gynorthwywr Canolfan ym Mhlas y Brenin, y ganolfan mynydda yng Nghapel Curig, yn gweithio gyda grŵp o Flaenau Ffestiniog yn y dyfodol agos er mwyn eu cynorthwyo i ennill eu Cymhwyster Arweinydd Mynydd.
 
Cwrsiau AM DDIM i Gweithwyr Ieuenctid!!!
11/04/2008
 
Newyddion
Mae Camre Cymunedol yn gyffrous iawn i allu cynnig yr cyrsiau canlynol, AM DDIM, i unrhyw person sy’n gweithio hefo Pobol Ifanc neu Cymunedau A HEFYD yn byw yn un o Siroedd canlynol: Sir Ddinbych, Sir Conwy, Gwynedd, Sir Fôn a Rhondda Cynon Taff.
 
Cynlluniau Hyfforddi - Hyfforddi Arweinwyr Mynydd Cymru
11/04/2008
 
Newyddion
Mae darparwyr cyrsiau yng Nghymru’n cynnal cannoedd o gyrsiau i hyfforddi ac asesu Arweinwyr bob blwyddyn, a HAMC yw’r corff sy’n eu trefnu ac yn eu gweinyddu.
 
AROLWG O WAITH Y BARTNERIAETH AWYR AGORED
06/04/2008
 
Newyddion
Wrth i ni nesáu at ddiwedd y cyfnod tair blynedd gychwynnol ‘rydym yn awyddus i gynnal arolwg o’r gwaith. Bwriad yr arolwg yw adnabod cryfderau a gwendidau yn y prosiect cyfredol (Hydref 2005-presennol) a blaenoriaethu meysydd ar gyfer datblygiad yn ystod y cyfnod 3 mlynedd nesaf (Ebrill 2009-Mawrth 2012).
 
Hyfforddiant Lefel 1 Cyfeiriannu Prydain
03/04/2008
 
Newyddion
Dyddiad 9 Ebrill 2008 Canolfan Hamdden Parc Eirias 9.00 am – 4.00pm Mae’r cymhwyster ar gael i unrhyw un sy’n 16 oed neu hŷn; fodd bynnag, dim ond dan oruchwyliaeth hyfforddwr/aig neu athro/athrawes cymwys y bydd unigolion dan 18 oed yn cael gweithio.
 
Gwyl Tremadog
03/04/2008
 
Newyddion
Trowch i fyny hefo secateurs, a/neu lli prwnio, wedyn dringo a rhoi trim i’r llwybr i gael mynediad am ddim i:
 
Cyfleoedd hyfforddiant AM DDIM i arweinwyr gwirfoddol!
02/04/2008
 
Newyddion
NEWYDD!
Rhaglen Addysg Hyfforddiant y Bartneriaeth Awyr Agored 2008 allan rŵan!

Bydd y Bartneriaeth Awyr Agored yn trefnu rhaglen o gyrsiau hyfforddiant awyr agored yn 2008 i hyfforddi Arweinwyr a Hyfforddwyr presennol ac i ddatblygu Arweinwyr a Hyfforddwyr newydd o fewn ein Clybiau Awyr Agored.
 
Hyfforddiant Cymhwyster Dringen Sengl trwy'r cyfrwng y Gymraeg!
31/03/2008
 
Newyddion
4 lle gwag ar gael ar y cwrs Hyfforddiant CDS (SPA) ym Mhlas y Brenin ar 19 a 20 o Ebrill 2008. Llefydd DI-DÂL I arweinyddion clybiau cymunedol!
 
Galwad am Arweinwyr Gwirfoddol
25/03/2008
 
Newyddion
Ydych chi’n byw yn ardal Porthmadog? Oes gennych chi gymwysterau arwain awyr agored ac awydd helpu allan yn eich clwb awyr agored lleol?
 
Swydd Wag ar gyfer Hyfforddwr Tymhorol yn y Ganolfan Genedlaethol Dwr
20/03/2008
 
Newyddion
Ceir cyfle gwych i hyfforddwr chwaraeon dŵr cymwys weithio yn un o ganolfannau chwaraeon dŵr gorau’r DG. Yn ddelfrydol, bydd gennych gymwysterau mewn sawl gweithgaredd, fel hwylio, canŵio, gwyntsyrffio a gyrru cychod pŵer.
 
Diffyg siaradwyr Cymraeg yn mentro i’r sector awyr agored
19/03/2008
 
Newyddion
Gyda 5% yn unig o weithlu’r diwydiant gweithgareddau awyr agored yng ngogledd orllewin Cymru yn siarad Cymraeg mae cynllun newydd wedi ei lansio i geisio gwrthdroi’r patrwm hwn.
 
Gwneud y mwyaf o amgylchedd naturiol Gwynedd
18/03/2008
 
Newyddion
"Ond mae'r sector awyr agored hefyd yn ffynhonnell swyddi amrywiol a diddorol, ac mae'n bwysig fod ein pobl ifanc yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd sydd ar gael trwy amgylchedd naturiol anhygoel Gwynedd." Ychwanegodd Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Strategol Cyfadran Datblygu Cyngor Gwynedd:
 
Grantiau Offer i Glybiau Awyr Agored!
18/03/2008
 
Newyddion
DYDDIAD CAU I'R ROWND NESAF O GEISIADAU YW TACHWEDD 24, 2008!
Clwb Padlo Blaeanu yw'r clwb diweddaraf i dderbyn grant offer gan y Bartneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru, drwy'r Cyngor Chwaraeon Cymru. Mae 'na i fyny at £5000 o gronfa cyfalaf i glybiau awyr agored ar gael.
 
Clwb Padlo Dysynni - SESIWN YCHWANEGOL yn y pwll i Iieuenctid o ddydd Mawrth, 11eg Mawrth 2008 ymlaen!
18/03/2008
 
Newyddion
Mae’n debyg i chi sylwi fod y clwb wedi tyfu o nerth i nerth a bod gennym bellach dros 65 o aelodau! Mae hyn tu hwnt i bob disgwyl ar gyfer y cyfnod yma o’r clwb sy’n golygu fod sesiynau yn y pwll wedi bod yn brysurach nag oeddem wedi ei ragweld. Yn hytrach na gwrthod unrhyw badlwyr newydd a chyfyngu’r cyfleoedd i aelodau presennol i ddatblygu eu sgiliau padlo rydym wedi ychwanegu sesiwn wythnosol arall i’r amserlen o Ddydd Mawrth 11eg o Fawrth ymlaen.
 
Cyrsiau Hyfforddi / Arwainyn AM DDIM i glybiau awyr agored
18/03/2008
 
Newyddion
Mae Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru, gyda chymorth Cyngor Chwaraeon Cymru yn cynnig cyrsiau arwain a hyfforddi AM DDIM yn 2008.
 
Clwb Antur Glaslyn yn derbyn £5000 i brynu offer canŵio a chaiacio
18/03/2008
 
Newyddion
Mae Clwb Antur Glaslyn wedi derbyn grant o £5000 yn ddiweddar gan Bartneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru ar gyfer prynu offer canŵio a chaiacio i’r clwb.
 
Cymdeithas Eryri yn penodi cyn Weinidog o’r Cynulliad
18/03/2008
 
Newyddion
Mae Cymdeithas Eryri wedi penodi Alun Pugh, cyn Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a’r Iaith Gymraeg yn y Cynulliad, fel eu Cyfarwyddwr o 3ydd o Fawrth ymlaen. Fel Gweinidog, roedd ymglymiad allweddol ganddo gyda’r awyr agored wrth hyrwyddo Dringo’n Uwch sef strategaeth chwaraeon a gweithgarwch corfforol y Cynulliad, wedi ei ddylunio i greu cenedl iach a heini.
 
Diweddariad yr Hydref a’r Gaeaf Clwb Antur Mon
01/01/2008
 
Newyddion
Gan fod y nosweithiau wedi cwtogi mae gweithgareddau’r Clwb wedi dychwelyd i ganolfannau dan do cyfarwydd ac rydym wedi cael mewnlifiad o aelodau newydd o bob rhan o Ynys Môn a hyd yn oed y tir mawr.
 
Anrhydedd i Gwirfoddolwr Clwb Antur Mon
01/12/2007
 
Newyddion
LLONGGYFARCHIADAU i Cadeirydd Clwb Antur Mon, Jamie Holding, wnaeth derbyn y wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn yn dddiweddar yn Gwobrau Chwaraeon Ynys Mon. Cafodd y Wobr yw gyflwyno gan y Tracey Morris, rhedwraig elitaidd marathon rhyngwladol, a gynhelir ym Miwmares ddydd Mercher 5ed Rhagfyr 2007.
 
Swyddi Gweigion am Fentoriaid Gweithgareddau Awyr Agored yn Sir Fôn, yng Nghonwy ac yng Ngwynedd.
01/10/2007
 
Newyddion
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored yn hysbysebu swyddi gweigion i ymarferwyr sydd â chymhwyster proffesiynol mewn gweithgareddau awyr agored i gynorthwyo’r clybiau awyr agored cynyddol ar draws yr ardal. Gyda chymorth ariannol Cronfa ‘Minor Grant’ gan y Cyngor Chwaraeon Cymru, mae’r swyddi rhan amser yma yn gyfle ardderchog i ymarferwyr sydd â chymhwyster proffesiynol yn yr awyr agored, i weithio hefo arweinyddion gwirfoddol o fewn y clybiau.
 
£50,000 hwb ariannol i glybiau awyr agored!
01/10/2007
 
Newyddion
Mae'r Bartneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru wedi derbyn hwb ariannol gan y Cyngor Chwaraeon Cymru yn ddiweddar i helpu clybiau awyr agored yn yr ardal.
 
Cwrs Arweinydd Mynydd (hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg)
01/09/2007
 
Newyddion
Mae arwain grŵp o gerddwyr mynydd ym mynyddoedd Cymru’n grefft arbennig. Mae o’n gofyn am sgiliau na fyddai rhywun fel arfer yn eu dysgu drwy ei brofiadau arferol o ddringo a cherdded mynydd. Mae dysgu sgiliau trin grŵp, gweithdrefnau argyfwng a defnydd cywir offer, drwy broses hyfforddiant ac asesu safonol, yn cynyddu gallu a hyder arweinydd ac yn ei alluogi i arwain grŵp o gerddwyr yn fwy effeithiol a diogel.
 
Uchafbwyntiau’r Haf Clwb Antur Mon
01/09/2007
 
Newyddion
Bu i fynd i fyny Tryfan a’r Glyder Fach, dringo amluchder yn Nhremadog, croesi lefel y môr ym Mhenrhyn Mawr, caiacio a chanŵa ar y Fenai, Bae Trearddur a Phontrhydybont, cerdded ceunentydd i fyny Afon Ddu, ynghyd â nosweithiau o gyfeiriadu, sgïo a gwersyllu wrth Lyn Idwal, lenwi’r wythnos gyda heriau...
 
Newyddion Diweddaraf gan Clwb Antur Glaslyn
01/08/2007
 
Newyddion
Fe gynhaliwyd pedwerydd cyfarfod Clwb Antur Glaslyn ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 28ain yng Nghanolfan Addysg Cwm Pennant. Bu oedolion y clwb yn cyfarfod yn rheolaidd dros yr wyth wythnos diwethaf ym Mhlas y Brenin am sesiynau hyfforddi, er mwyn ennill eu gwobr 2 seren a chymhwyster Lefel 1 Hyfforddi Cynorthwyol caiacio. Roedd hyn yn gyfle i aelodau iau’r clwb i gymryd rhan, daeth 8 o blant - rhwng 5 a 10 oed - i’r cyfarfod.
 
Her 15 Copa Eryri 2007
01/07/2007
 
Newyddion
Ar ddydd Sadwrn y 23ain o Fehefin eleni, fe heriodd 7 o ffrindiau eu hunain i gyrraedd 15 copa 3,000 troedfedd Eryri, pob un y diwrnod hwnnw. A lwyddon nhw i gwblhau’r fath laddfa o daith...?
 
Gweithgareddau Antur Haf 2007
01/07/2007
 
Newyddion
Mae Cyngor Sir Ynys Môn a'r bartneriaeth awyr agored yn cynnig rhaglen o weithgareddau awyr agored yn ystod gwyliau'r ysgol haf 2007. Bydd y rhaglen yn cael ei rhedeg gan y Canolfan Conwy a bydd y gweithgareddau yn cael ei thorri fyny yn ôl ardaloedd.
 
Newyddion Diweddaraf gan Clwb Antur Môn
20/06/2007
 
Newyddion
Ar ôl sesiynau wythnosol dros y gaeaf yn y gwall dringo Indy a’r Canolfan Dringo’r Beacon, mae aelodau’r clwb yn hyderus yn rhoi sgiliau dringo nhw i ymarfer, tu allan…
 
Cyfleoedd Arweinyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhlas y Brenin
01/05/2007
 
Newyddion
Yn sgil y galw am gwrs o'r fath, fe drefnwyd cwrs hyfforddi llwyddiannus trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer Arweinwyr Grwpiau Cerdded Mynydd ym Mhlas y Brenin, Canolfan Cenedlaethol Mynydda Cymru.
 
Cyfleoedd Arweinyddiaeth i bobol ifanc leol
02/04/2007
 
Newyddion
Eleni cafodd 13 o bobol leol o Ogledd Orllewin Cymru'r cyfle o fynychu gwobrau arweinyddiaeth awyr agored ym Mhlas y Brenin, y Ganolfan Mynydda Genedlaethol trwy'r Gronfa Addysg Thomas Howell.
 
Ffansi newid gyrfa?
01/04/2007
 
Newyddion
Yn dilyn partneriaeth lwyddianus gyda Menter Iaith Conwy, mae yna gyfle bellach i siaradwyr Cymraeg Conwy i fynd ar gyrsiau hyfforddi ac asesu a gweithio ym myd yr awyr agored.
 
Dyddiau Antur Awyr Agored dros wyliau'r haf yng Ngwynedd
07/01/2007
 
Newyddion
Cyfle i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous - caiacio, mynd ar hyd ceunentydd, croesi ar lefel y môr, anturio tan ddaear, cerdded mynydd, a dringo. Caiff y cyrsiau eu staffio gan staff profiadol a chymwys o Ganolfan Addysg Awyr Agored Llanrug.
 
Y GYMRAEG YN CYRRAEDD Y COPA
01/01/2007
 
Newyddion
Ydy chi’n mwynhau bod allan yn yr awyr agored? Ydy chi’n siarad Cymraeg? Mewn ymdrech i roi gwell cyfle i bobl Gogledd Cymru gael mwynhau bywyd iach, fe ddaeth Menter Iaith Conwy a’r Bartneriaeth Awyr Agored a gweithgor o gynrychiolwyr y sector awyr agored at ei gilydd i drafod ffyrdd i agor byd hamdden awyr agored i bobl leol.
 
Sgwad Hwylio Celfad Gogledd Cymru NEWYDD
01/12/2006
 
Newyddion
Mae 10 o forwyr ifanc o Ogledd Cymru wedi bod yn rhan o’r Sgwad Hwylio Celfad Gogledd Cymru i ymgeisio bod yn aelodau Rhaglen Genedlaethol Hwylio Celfad 2008 yr RYA.
 
Cais Clwb Hwylio Brenhinol Ynys Mon am Grant yn Llwyddiannus!
10/01/2006
 
Newyddion
Mae cais a wnaethpwyd gan Glwb Hwylio Brenhinol Ynys Mon yn ddiweddar am grant Cist Gymunedol i gefnogi gweithgareddau hwylio ar gyfer ieuenctid a phlant yn llwyddiannus. Cyflwynwyd y cais gyda chymorth Cymdeithas Hwylio Cymru a Phartneriaeth Awyr Agored Gogledd-orllewin Cymru.
 
Dyddiau Antur Awyr Agored dros wyliau'r haf ym Mhlas Menai
02/07/2000
 
Newyddion
Edrych am antur dros wyliau'r haf? Beth am fynd draw i Blas Menai i gael profiad o weithgareddau hwylio, beicio mynydd, caiacio a gwynt syrffio...
 


 

Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru:
Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Chwaraeon Cymru, Plas Menai, Plas y Brenin, Canolfan Conway , Gwasanaeth Addysg Awyr Agored Gogledd Ddwyrain Cymru, Nant Bwlch yr Haearn, Hyfforddi Arweinwyr Mynydd Cymru, Snowdonia-Active, Prifysgol Cymru Bangor, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Urdd Gobaith Cymru.