Coach Education Leaflet
 
Croeso i safle we y Bartneriaeth Awyr Agored
 

 

 

Croeso i safle we y Bartneriaeth Awyr Agored, gwefan adnodd i glybiau, grwpiau cymunedol, ysgolion, pobl ifanc, unigolion a teuluoedd, eisio profiad, mwyhad a llwyddiant yn yr Awyr Agored
 
Newyddion
Swyddi gyda Sustrans!
Uwch Swyddog Marchnata - hyd at 27,000 y flwyddyn (Cyf: SUS015M)
Swyddog y Celfyddydau a Marchnata - hyd at 24,000 y flwyddyn (Cyf: SUS016M)
Swyddog Prosiect, Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol - hyd at 24,000 y flwyddyn (Cyf: SUS017M)
Swyddog Prosiect, Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol - hyd at 24,000 y flwyddyn (Cyf: SUS018M)
Mae'r holl swyddi ar gyfer 37.5 awr yr wythnos, cytundeb tair blynedd wedi eu lleoli yng Nghaerdydd (efallai y gellir trafod hyn).
 
NOSON o WEITHGAREDDAU er budd yr RNLI yn Plas Menai y Ganolfan Chwaraeon Dwr Genedlaethol
Dydd Lau 2il Gorffennaf 2009

Y gweithgareddau’n dechrau am 6pm.

Dewch i roi cynnig ar ...Dingis Hwylio; Catamaranau; Gwyntsyrffio; Cychod Cîl; Canŵs Agored; Cychod Eistedd Arnynt.
 
Ar Eich Beic Dros Barnardo’s Gogledd Cymru
8am, Dydd Sul 5 Gorffennaf 2009 gan gychwyn a gorffen ym maes parcio Pensarn.
Gallwch ddewis o deithiau hyfryd 15 neu 30 milltir ar hyd arfordir godidog Gogledd Cymru.
 
Bencampwr RYA Cenedlaethol Ieuenctid Volvo
Mae'r llongwr o Ynys Mon Bleddyn Mon wedi ei goroni'n Bencampwr RYA Cenedlaethol Ieuenctid Volvo wedi iddo ennill y goron 29er ar Arfordir Gorllewin yr Alban. Aeth Mon sydd wedi ennill teitl Cenedlaethol dosbarth 29er ddwywaith yn ogystal ag ennill gwobr arian Ieuenctid yn y Gystadleaeth FydEang 29er 2008 yn Awstralia, i Bencampwriaethau'r wythnos ddiwethaf yn Largs yn wyllt i fynd un yn well na'r wobr arian Genedlaethol Ieuenctid a hawliodd gyda'r criw blaenorol Tom Humphreys ym Mhwllheli y llynedd.
 
LANSIAD SWYDDOGOL Cwrs Sgiliau Beicio Mynydd Llwybr Haearn
Dydd Mawrth diwethaf (7fed Ebrill 2009) agorodd Alun Ffred Jones AC (Gweinidog Treftadaeth) Drac Sgiliau Beicio Mynydd y Llwybr Haearn yn swyddogol yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Nant Bwlch yr Haearn. Gwnaethpwyd y trac arloesol hwn yn bosib diolch i ariannu hael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy Gyngor Chwaraeon Cymru ac eisoes mae’n gwneud gwahaniaeth positif i lefelau cyfranogaeth leol mewn gweithgareddau iach a chyffrous fel hyn.
 
Croeso i Wythnos Gerdded Conwy 2009
Trefnwyd gan Wasanaeth Cefn Gwlad Conwy
Ydych chi'n mwynhau mynd allan i'r wlad, eisiau ychydig o ymarfer corff ac awyr iach, yn hoffi cyfarfod pobl newydd ac ymweld ag ychydig o lefydd gwahanol? Os felly, bydd rhywbeth ar eich cyfer chi yn Wythnos Gerdded Conwy.
 
Lansio 10fed Gwyl Gerdded Ynys Mon ac agoriad swyddogol Lon Las Cefni
Dydd Sadwrn 23 Mai 2009 am 11.00 y bore gan y darlledwr enwog, Hywel Gwynfryn. Yn dilyn y lansiad swyddogol ger y Joiner's Arms ym Malltraeth, am 1.00 y prynhawn, bydd modd cymryd rhan mewn teithiau cerdded elusennol sydd yn 2, 4 neu 10 milltir o hyd.
 
Cwrs Pysgota, Gwersyllt yr Urdd Glan-Llyn
Gorffennaf 21, 23 2009 (Blynyddoedd 3,4,5,6)
Pris 95 punt i gynnwys popeth
Cyfle unigryw i chi ddod i Wersyll yr Urdd, Glanllyn i dderbyn hyfforddiant pysgota o'r safon uchaf. Mae y cwrs yn cael ei drefnu ar y cyd rhwng yr Urdd a'r Asiantaeth yr Amgylchedd. Yn ystod y deuddydd bydd cyfle i ddysgu sgiliau pysgota, gwersylla, dysgu am fywyd gwyllt yr ardal, coginio a gwyllt grefft(bushcraft). Yn ogystal bydd cyfle i gymryd rhan yng ngweithgareddau cyffrous eraill y Gwersyll; y Cwrs Rhaffau Uchel, Canwio, Adeiladu Rafft, Chwaraeon, Wal Ddringo etc.
 
Cyrsiau Hyfforddi ag Arwain 2009!
Mae Rhaglen Addysg Hyfforddiant y Bartneriaeth Awyr Agored 2009 ar gael i arweinwyr gwirfoddol. Mae'r rhaglen yn cynnwys cyrsiau'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol, cymhwysterau hyddysgedd, cefnogaeth mentora, cyrsiau cymorth cyntaf a gweithdai Sports Coach UK.
 
Wythnos Antur Mon Mai 25ain i'r 29ain 2009!
Yn ystod yr wyliau hanner tymor mae'r bartneriaeth Awyr Agored wedi trfnu wythnos o weithgareddau awyr agored i preswylwyr Mon. Mae Wythnos Antur Mon yn rhedeg am pumb diwrnod hefo'r bwriad o cael mwy o bobl lleol Mon allan yn yr awyr agored ar arfordir Mon. Mae'r wythnos yn cynnwys gweithgareddau fel dringo a mor deithio ac yn rhad ac am ddim.
 




 

 


 

Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru:
Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Chwaraeon Cymru, Plas Menai, Plas y Brenin, Canolfan Conway , Gwasanaeth Addysg Awyr Agored Gogledd Ddwyrain Cymru, Nant Bwlch yr Haearn, Hyfforddi Arweinwyr Mynydd Cymru, Snowdonia-Active, Prifysgol Cymru Bangor, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Urdd Gobaith Cymru.