Coach Education Leaflet

Logbook Pages

Club Contact Details
Clybiau Antur Awyr Agored 2010/11 (PDF)
 

Cyrsiau Coleg a Phrifysgol

Coleg Llandrillo Cymru
BTEC Diploma Cenedlaethol Addysg Awyr Agored
Manylion:
Amcan y cwrs ydi cyflwyno myfyrwyr i’r Diwydiant Hamdden Awyr Agored, rhoi cyfle iddyn nhw ddysgu sgiliau perfformiad personol, sgiliau hyfforddi a dealltwriaeth o fyd hamdden awyr agored. Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau fydd yn eu galluogi i geisio am gymwysterau Cyrff Rheoli Cenedlaethol.
Gofynion:
4 TGAU gradd C neu uwch (neu gymwysterau cyfwerth) yn cynnwys Saesneg os oes modd. Diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored, ac yn cymryd rhan weddol gyson ynddyn nhw. Dim gwybodaeth flaenorol yn angenrheidiol o ran ochr academaidd y cwrs.
Cyswllt: Canolfan Cyngor ac Arweiniad y Coleg Ffôn:1492
E-bost: admissions@llandrillo.ac.uk Gwefan: www.llandrillo.ac.uk
 

Coleg Meirion-Dwyfor
BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Peirianneg (Morwrol)
Manylion:
Mae’r cwrs yn seiliedig ar waith prosiect ac mae posib arbenigo mewn peirianneg forwrol neu beirianneg cyffredinol. Bydd angen cwblhau 18 uned o waith yn cynnwys peirianneg electroneg, dylunio graffeg (CAD), cynnal a chadw peiriannau, weldio ac iechyd a diogelwch. Mae’r cwrs yn datblygu sgiliau sy’n paratoi'r myfyrwyr ar gyfer byd gwaith, prentisiaeth a, gyda’r pwyntiau angenrheidiol, ar gyfer prifysgol. Mae’r Diploma cyfwerth a 3 Lefel A.
Gofynion:
5 TGAU Gradd A-C, gyda 2 o’r 5 mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth. Fe all y gofynion fod yn wahanol ar gyfer oedolion.
Cyswllt: Tony Jones neu Margaret Williams Ffôn:1758
E-bost: Gwefan: www.meirion-dwyfor.ac.uk
 

Coleg Meirion-Dwyfor
Prentisiaeth mewn Peirianneg Morwrol
Manylion:
Mae posib i fyfyriwr gwblhau Prentisiaeth Peirianneg Morwrol ac ennill cymwysterau mewn gwaith Adeiladu a Thrwsio Cychod drwy ddilyn y cwrs coleg a gweithio gyda chyflogwr ar yr un pryd. Mae’r myfyrwyr yn astudio ar gyfer NVQ a Thystysgrif Technegol ac yn dysgu Sgiliau Allweddol gofynnol y diwydiant. Mae posib dechrau’r brentisiaeth ar Lefel 1 a gweithio i fyny i Lefel 3 dros gyfnod o dair blynedd.
Gofynion:
Does dim angen cymwysterau ffurfiol, ond mae’r cymhelliad, yr awydd a’r parodrwydd i ddysgu’n hanfodol.
Cyswllt: Ffôn:1758
E-bost: Gwefan: www.meirion-dwyfor.ac.uk
 

Coleg Menai
HND Gwyddor Chwaraeon (Chwaraeon Awyr Agored)
Manylion:
Cwrs newydd llawn amser 2 flynedd o hyd ar gyfer y rhai sydd am feithrin gwybodaeth gadarn o feysydd gwyddor chwaraeon ac addysg awyr agored drwy ennill cymhwyster cenedlaethol. Mae’r Coleg yn rhedeg y cwrs mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru Bangor a Chanolfan Cenedlaethol Chwaraeon D?r Plas Menai. Ar ôl cwblhau’r HND gall myfyrwyr fynd ymlaen i ddwy flynedd bellach yn y Brifysgol a gradd mewn Gwyddor Chwaraeon.
Gofynion:
Mae angen i fyfyrwyr fod yn 18 oed neu h?n gydag o leiaf un o’r canlynol:- • 4 TGAU ac o leiaf un Lefel A (gradd D neu uwch) • Diploma Cenedlaethol BTEC mewn pwnc cysylltiedig (gradd merit) • GNVQ Uwch mewn pwnc cysylltiedig (gradd merit) • Tystysgrif Addysg Uwch • Bydd myfyrwyr h?n gyda phrofiad priodol yn cael eu hystyried bob yn unigolyn.
Cyswllt: Paul Williams Ffôn:1248
E-bost: paul.williams@menai.ac.uk Gwefan: www.menai.ac.uk
 

NEWI
BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Cymwysedig
Manylion:
Mae hon yn gwrs sy’n cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth o Wyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff drwy waith a phrofiad ymarferol. Mae’r meysydd astudiaeth yn cynnwys ffisioleg, seicoleg, biomecaneg, hyfforddi, chwaraeon ymarferol, a hyrwyddo iechyd ac ymarfer corff. Bydd y myfyrwyr yn dysgu am swyddogaethau’r gwyddonydd chwaraeon ac ymarfer corff ac am broffesiynau cysylltiedig drwy amrywiaeth o brofiadau ymarferol a chymwysedig. I gyd-fynd â’r pwyslais ar fywyd iach a chorfforol weithgar, bydd y myfyrwyr yn dysgu am bwysigrwydd ymarfer corff o ran gwella iechyd corfforol a meddyliol; mae’r rhaglen hefyd, serch hynny, yn cadw’r pwyslais ar berfformiad sy’n gysylltiedig ag astudiaethau gwyddor chwaraeon mwy traddodiadol.
Gofynion:
O leiaf 180 o bwyntiau UCAS ar gyfer y radd anrhydedd; yn ddelfrydol mi fyddai gan y myfyrwyr o leiaf un lefel A (A2) mewn pwnc gwyddonol. Cyn bod modd cynnig lle diamod ar y cwrs bydd yn rhaid i fyfyrwyr gwblhau a thalu am wiriad Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) fydd yn caniatáu i’r coleg wirio eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs.
Cyswllt: Cynthia Edwards, Cynorthwywr Gweinyddol Ffôn:1978
E-bost: c.edwards@newi.ac.uk Gwefan: www.newi.ac.uk
 

NEWI
BA (Anrh) Datblygiad Chwaraeon Cymunedol
Manylion:
Manylion: Mae hon yn gwrs Gradd sy’n darparu ystod gynhwysfawr o sgiliau academaidd, ymarferol a galwedigaethol ar gyfer ei myfyrwyr mewn maes sy’n tyfu’n sydyn. Mae yna bwyslais cryf ar y gweithle ac mae myfyrwyr yn cael cyfle i gysgodi gweithwyr yn y Sector Datblygu Chwaraeon Cymunedol, i weithio ar leoliad gwaith, neu weithredu fel ymgynghorydd yn datrys problemau a materion cysylltiedig â’r gweithle. Gall y myfyrwyr ddewis dilyn llinyn Astudiaethau Ieuenctid neu linyn Addysg, neu gymryd modiwlau Hyfforddi Chwaraeon. Pa bynnag gyfeiriad bydd y myfyrwyr yn eu dewis mi fyddan nhw’n graddio gydag ystod amrywiol o’r sgiliau y mae’r diwydiant datblygu chwaraeon yn gofyn amdanyn nhw. Mae hon yn radd sydd wedi ei hanelu at fyfyrwyr sydd am ddilyn gyrfa ym maes datblygu chwaraeon, ond bydd hefyd yn cymhwyso myfyrwyr gyda’r sgiliau sydd eu hangen i gymryd swyddi ym maes cysylltiadau cymunedol, cynlluniau chwaraeon dinesig a chefn gwlad, gweithgareddau pobl ifanc, hyrwyddo iechyd, hyfforddi chwaraeon a mynediad i TYDR (yn dibynnu ar eu dewisiadau).
Gofynion:
Cyn bod modd cynnig lle diamod ar y cwrs yma bydd yn rhaid i fyfyrwyr gwblhau a thalu am wiriad Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB), fydd yn caniatáu i’r coleg wirio eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs.
Cyswllt: Cynthia Edwards, Cynorthwywr Gweinyddol Ffôn:1978
E-bost: c.edwards@newi.ac.uk Gwefan: www.newi.ac.uk
 

Prifysgol Cymru, Bangor
BA (Anrh) Hamdden a’r Amgylchedd
Manylion:
Mae hon yn Radd sy’n darparu ystod eang o wybodaeth fydd yn berthnasol i yrfa ym myd Hamdden mewn cyd-destun amgylcheddol megis chwaraeon cefn gwlad, Parciau Cenedlaethol, rheoli ardaloedd gwarchodaeth a mynediad i gefn gwlad. Mae’r myfyrwyr yn astudio agweddau academaidd a galwedigaethol o reoli amgylchedd, treftadaeth, rheoli gweithgareddau hamdden a chadwraeth mewn cyd-destun Ewropeaidd. Mae’r dewisiadau sydd ar gael yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr arbenigo. Mae’r cwrs ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg (os oes yna o leiaf 7 yn y dosbarth). Côd cwrs UCAS: FN92 BA/LEM
Gofynion:
240-280 o bwyntiau’n dibynnu ar broffil personol y myfyriwr. Mae posib cynnwys sgiliau allweddol ond mae’n rhaid cael dau bwnc Lefel A2. Os oes HND perthnasol gyda Merit gan y myfyriwr mae posib mynd yn syth i Flwyddyn 2. 28 pwynt o’r Bagloriaeth Ryngwladol; llwyddiant yn y Bagloriaeth Ewropeaidd. Rydym yn ystyried myfyrwyr Access a myfyrwyr h?n eraill sydd â phrofiad/dysgu blaenorol bob yn unigolyn. Mae’r cwrs HND mewn Rheolaeth Hamdden sy’n rhoi mynediad i’r cwrs Gradd hon, yn cael ei rhedeg ar y cyd â Choleg Menai. Cymwysterau tramor cyfwerth = IELTS 6.0
Cyswllt: Y Tiwtor Derbyn Ffôn:1248
E-bost: sbard@bangor.ac.uk Gwefan: sbard.bangor.ac.uk/
 

Prifysgol Cymru, Bangor
HND Gwyddor Chwaraeon (gyda Chwaraeon Awyr Agored)
Manylion:
Cwrs sy’n cael ei rhedeg ar y cyd â Choleg Menai, ac sy’n addas ar gyfer y rhai hynny sydd am sicrhau cefndir addysgol cadarn ym meysydd gwyddor chwaraeon ac addysg awyr agored drwy ennill cymhwyster cenedlaethol. Mae’r Ganolfan Chwaraeon D?r Cenedlaethol, Plas Menai, 4 milltir yn unig o Fangor, yn cyfrannu’n sylweddol at y cwrs. Bydd myfyrwyr sy’n dilyn y cwrs yn cael cyfle i ennill cymwysterau eraill, yn cynnwys Cymorth Cyntaf a gwahanol gymwysterau hyfforddi, fydd yn ehangu eu gwybodaeth ac yn cynyddu’r tebygrwydd o gael swydd. Bydd cwblhau’r cwrs HND yn llwyddiannus yn rhoi mynediad i ail flwyddyn gradd BSc Anrhydedd y Brifysgol mewn Gwyddor Chwaraeon. Er mai rhaglen cyfrwng Saesneg ydi hon, bydd rhannau ohoni ar gael yn ddwyieithog, gydag asesiad llafar ac ysgrifenedig ar gael yn y Gymraeg i’r rhai sy’n dymuno hynny. Bydd cefnogaeth tiwtor personol ar gael yn newis iaith y myfyriwr ar hyd y cwrs.
Gofynion:
Mae angen bod o leiaf 18 oed gydag o leiaf un o’r canlynol: 4 TGAU ac o leiaf un Lefel A (gradd D neu uwch), Diploma Cenedlaethol BTEC mewn pwnc cysylltiedig (merit). Mae myfyrwyr h?n tystysgrif Mynediad i Addysg Uwch gyda phrofiad a sgiliau perthnasol yn cael eu hystyried bob yn unigolyn.
Cyswllt: Paul Williams Ffôn:1248
E-bost: paul.williams@menai.ac.uk Gwefan: www.bangor.ac.uk
 

Prifysgol Cymru, Bangor
BSc (Anrh) Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol (SHAPE)
Manylion:
Gradd sy’n cynnig cyfle i astudio tri maes gwyddor chwaraeon, iechyd ac addysg gorfforol. Mae o’n baratoad da ar gyfer gyrfa yn y diwydiant ffitrwydd ffyniannus, ar gyfer dysgu addysg gorfforol (wedi hyfforddiant TYDR) neu yrfa ymchwil mewn amrywiaeth o feysydd cysylltiedig â chwaraeon ac iechyd.
Gofynion:
Ar gyfer graddau ar y cyd mae angen edrych ar ofynion y pwnc arall. 260 o bwyntiau gydag o leiaf 180 o bwyntiau ar Lefel A2, pob pwnc yn dderbyniol. Diploma Cenedlaethol BTEC mewn pwnc perthnasol ac o leiaf 3 Merit (240 pwynt); mynediad uniongyrchol i’r ail flwyddyn yn bosib gyda HND perthnasol - mae Coleg Menai, coleg addysg bellach lleol, yn cynnig HND mewn Gwyddor Chwaraeon (Chwaraeon Awyr Agored). Ystyrir myfyrwyr h?n sydd wedi astudio gwaith perthnasol yn ddiweddar bob yn unigolyn.
Cyswllt: Swyddfa Derbyn, Yr Ysgol Chwaraeon, Iechyd a Gwyddor Ymarfer Corff Ffôn:1248
E-bost: p.a.thomas@bangor.ac.uk Gwefan: www.shes.bangor.ac.uk
 

Prifysgol Cymru, Bangor
BSc Gwyddor Ymarfer Corff (Rhyngosodol)
Manylion:
Cwrs ar gyfer myfyrwyr meddygol sydd wedi cwblhau trydedd flwyddyn yn yr Ysgol Feddygol yn llwyddiannus ac sydd am ennill gradd BSc mewn Gwyddor Ymarfer Corff.
Gofynion:
Wedi eu pennu gan yr Ysgol Feddygol a Phrifysgol Cymru
Cyswllt: Swyddfa Derbyn, Yr Ysgol Chwaraeon, Iechyd a Gwyddor Ymarfer Corff Ffôn:1248
E-bost: p.a.thomas@bangor.ac.uk Gwefan: www.shes.bangor.ac.uk
 

Prifysgol Cymru, Bangor
raeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol (SHAPE) gyda Seicoleg
Manylion:
Gradd sydd wedi ei drefnu ar gyfer y rhai sydd am gyfuno astudiaethau Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol gyda Seicoleg.
Gofynion:
260 o bwyntiau gydag o leiaf 180 o bwyntiau ar Lefel A2, pob pwnc yn dderbyniol; Diploma Cenedlaethol BTEC mewn pwnc perthnasol gydag o leiaf 3 Merit (240 o bwyntiau); mynediad uniongyrchol i flwyddyn 2 yn bosib gyda HND perthnasol - mae Coleg Menai, coleg addysg bellach lleol, yn cynnig HND mewn Gwyddor Chwaraeon (Chwaraeon Awyr Agored). Ystyrir bob yn unigolyn unrhyw fyfyrwyr h?n sydd wedi astudio gwaith perthnasol yn ddiweddar.
Cyswllt: Swyddfa Derbyn, Yr Ysgol Chwaraeon, Iechyd a Gwyddor Ymarfer Corff Ffôn:1248
E-bost: p.a.thomas@bangor.ac.uk Gwefan: www.shes.bangor.ac.uk
 

 

 

Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru:
Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Chwaraeon Cymru, Plas Menai, Plas y Brenin, Canolfan Conway , Gwasanaeth Addysg Awyr Agored Gogledd Ddwyrain Cymru, Nant Bwlch yr Haearn, Hyfforddi Arweinwyr Mynydd Cymru, Snowdonia-Active, Prifysgol Cymru Bangor, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Urdd Gobaith Cymru.