Mae yna lawer o glybiau awyr agored yng ngogledd-orllewin Cymru sy’n darparu ar gyfer plant, oedolion, teuluoedd, rhai dibrofiad, rhai a pheth profiad a’r profiadol.
Os ydych chi’n newydd i weithgaredd awyr agored mae ymuno â chlwb yn ffordd wych o ddod i nabod pobl ac elwa o brofiad aelodau eraill y clwb.
Mae manylion cyswllt gwahanol glybiau i’w cael ar y rhestr isod. Cymrwch olwg ar y rhestr, rhowch alwad i’r clwb, gyrrwch e-bost neu trowch i fyny ar y dydd. Byddan nhw’n falch o’ch gweld chi a’ch helpu i fwynhau camp y maen nhw eu hunain yn meddwl y byd ohono. Os ydi eich ymholiad chi’n un mwy penodol, teipiwch air allweddol yn y blwch chwilio a chliciwch y botwm chwilio>> yn ei ymyl.
Os ydych chi’n weinyddwr clwb ac am gynnwys eich clwb ar ein rhestr, llenwch y ffurflen yma ac mi fyddwn yn ychwanegu eich manylion at y rhestr.
|