Coach Education Leaflet

Logbook Pages

Club Contact Details
Clybiau Antur Awyr Agored 2010/11 (PDF)
 

Pwy ydi’r Bartneriaeth Awyr Agored?
Fe ddaeth yn amlwg yn 2003 nad oedd llawer o gyfleoedd i bobl leol gogledd-orllewin Cymru gael mwynhau’r wlad ogoneddus oedd o’u cwmpas drwy weithgareddau awyr agored. O ganlyniad, roedd cyfle ardderchog i ddatblygu ffordd iach o fyw, datblygu fel person a chael swydd ddifyr yn cael ei golli i fwyafrif pobl y rhanbarth.
Ar ôl sawl ymgynghoriad fe ffurfiwyd gweithgor yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sectorau gwirfoddol, preifat a chyhoeddus. Aeth y gweithgor ati i lunio cynllun tair blynedd i fynd i’r afael â’r broblem.
Ym mis Ebrill 2005 fe ffurfiwyd Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru ac yna, fel canlyniad i arian a gafwyd oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru, fe apwyntiwyd pedwar aelod staff allweddol. Ers hynny, rydym wedi dechrau gweld y weledigaeth yn troi’n wirionedd ymarferol.

Gweledigaeth y Bartneriaeth
Creu Cymru fywiog, iach a chynhwysol, gyda lle amlwg i weithgareddau hamdden awyr agored. Mae gweithgareddau o’r fath yn fodd i bobl gael hwyl, i gymryd rhan a chyfrannu, ac i ddatblygu eu cyrhaeddiad. Maen nhw hefyd yn ffynhonnell gwaith, yn fodd i uno cymunedau lleol ac yn ffordd i hybu dealltwriaeth a defnydd cynaliadwy o’n hamgylchedd.

Cenhadaeth y Bartneriaeth
Gwella cyfleoedd i bobl leol yng Ngogledd-orllewin Cymru gyrraedd eu potensial trwy weithgareddau awyr agored.

Meysydd Blaenoriaeth

  • Cyfleoedd ar lefel sylfaenol.
  • Cyfleoedd ‘lefel cyfranogi’.
  • Perfformiad a rhagoriaeth.
  • Recriwtio gwirfoddolwyr, eu hyfforddi, eu cefnogi a’u cadw.
  • Codi lefel cyflogaeth bobl leol.
  • Darparu Addysg Awyr Agored.

Y Ffordd Ymlaen

  • Datblygu, darparu a hyrwyddo rhaglenni gweithgareddau awyr agored. Yna cysylltu ag ysgolion, cymunedau lleol, grwpiau ieuenctid a grwpiau targed eraill i sicrhau eu bod yn cwrdd ag anghenion lleol. Y bwriad drwy hyn i gyd ydi rhoi cyfle i bobl gael profiad ‘tro cyntaf’ o weithgareddau awyr agored addas ar lefel o’u dewis.
  • Cydweithio gyda chyrff perthnasol, sefydliadau proffesiynol a grwpiau cymunedol i greu cyfleoedd cynaliadwy i fwynhau gweithgareddau awyr agored drwy glybiau gogledd-orllewin Cymru (gan gefnogi clybiau awyr agored a grwpiau cymunedol sydd eisoes mewn bod).
  • Trwy bartneriaeth gydag unigolion i drefnu cyfleoedd addas iddyn nhw ddatblygu i lefelau uwch o berfformiad, cystadleuaeth ac arweinyddiaeth yn ôl eu dymuniad.
  • Recriwtio gwirfoddolwyr lleol, eu hyfforddi, eu cynghori a’u cadw. Cefnogi trefn o gymryd rhan, datblygu sgiliau ac ennill cymwysterau fydd yn galluogi pobl leol i symud ymlaen i yrfaoedd yn y sector awyr agored.
  • Annog ysgolion a rhoi cyngor iddyn nhw ynghylch gwneud Addysg Awyr Agored yn rhan barhaol o’r cwricwlw
  • Creu gwefan ‘Partneriaeth Awyr Agored’ fydd yn llyfrgell o adnoddau awyr agored i athrawon, plant, rhieni, grwpiau ieuenctid, grwpiau cymunedol ac unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored yma yng Ngogledd-orllewin Cymru


 

Partneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru:
Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Chwaraeon Cymru, Plas Menai, Plas y Brenin, Canolfan Conway , Gwasanaeth Addysg Awyr Agored Gogledd Ddwyrain Cymru, Nant Bwlch yr Haearn, Hyfforddi Arweinwyr Mynydd Cymru, Snowdonia-Active, Prifysgol Cymru Bangor, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Urdd Gobaith Cymru.